S4C i ddangos gêm agoriadol Cymru D21 yn fyw ar-lein
Bydd gêm gyntaf Cymru yn eu hymgyrch rhagbrofol UEFA EURO D21 2023 yn cael ei ddangos yn fyw ar-lein, wrth i dîm Paul Bodin wynebu Moldova ar ddydd Gwener 4 o Fehefin ym Mharc Stebonheath, Llanelli (KO 19:30).
Bydd Cymru yn gobeithio cyrraedd pencampwriaeth D21 am y tro gyntaf erioed, trwy geisio curo grŵp sydd yn cynnwys yr Iseldiroedd, y Swistir, Bwlgaria, Moldova a Gibraltar.
Gall cefnogwyr wylio’r gêm yn fyw ar S4C Clic (https://www.s4c.cymru/clic) thudalennau Facebook (https://www.facebook.com/sgorio) ac Youtube Sgorio (https://www.youtube.com/sgorio).
Dyma’r tro gyntaf i dîm D21 Cymru chwarae yn Stebonheath ers Chwefror 2013, pan enillodd tîm a oedd yn cynnwys Danny Ward, Jonny Williams a Tom Lawrence 3-0 yn erbyn Gwlad yr Iâ mewn gêm gyfeillgar. Bydd y gêm yn cael ei chware heb dorf oherwydd pandemig COVID-19.