Gyda gôl hwyr Nathan Broadhead yn Split nos Sadwrn yn dal yn fyw yn y cof i gefnogwyr Cymru, roedd cryn edrych ymlaen am yr her yn erbyn Latfia ar gyfer gêm ragbrofol UEFA Euro 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Cyn y gêm fe gafodd y Wal Goch gyfle i ddiolch i Gareth Bale am ei ddawn a’i ddylanwad wrth iddo ymddangos o flaen y dorf, ac yntau bellach wedi ymddeol o bêl-droed.
Cafodd groeso i’w gofio, a chefnogwyr Cymru’n diolch iddo am greu hanes a’r holl atgofion melys dros y blynyddoedd a fu.
Cyn y gêm dywedodd Rob Page fod angen i dîm Cymru ar ei newydd wedd ddangos cysondeb heb sawl wyneb cyfarwydd bellach yn y garfan.
Cyfleoedd cynnar
Gyda munud ar y cloc, fe darodd Harry Wilson ergyd nerthol i gyfeiriad Kieffer Moore o du allan i’r cwrt cosbi, ond fe lwyddodd amddiffyn Latfia i glirio’r bygythiad.
Wedi bron i bum munud o chwarae, fe groesodd Daniel James y bêl ar draws o’r asgell chwith, gyda Moore yn ffugio ei derbyn gan adael i Wilson ergydio eto am y gôl – ond fe lwyddodd Pavels Steinbors i’w harbed.
Roedd gan Gymru 74% o’r meddiant yn ystod y 10 munud cyntaf, ac roedd y crysau coch yn dangos awch i ymosod.
Daeth cyfle eto wedi 12 munud – croesiad arall gan Wilson yn anelu i gyfeiriad Kieffer Moore yn y cwrt cosbi, ond roedd y bas fodfeddi’n rhy uchel y tro hwn.
Fe ddechreuodd Latfia ymosod wedi chwarter awr – gan ennill cic gornel. Bu ond y dim i’r ymwelwyr sgorio, gyda Marcis Oss yn ergydio o flaen y gôl.
Bu’n rhaid i Danny Ward ymateb yn sydyn i’r bygythiad – rhybudd cynnar i Gymru o’r her o’u blaen.
Gyda 20 munud ar y cloc, tro Cymru oedd hi i fygwth – y tro yma wrth i Ramsey ergydio’r bêl i Moore oedd yn aros yn y cwrt cosbi, ond fe gafodd y cyfle ei wastraffu gyda ymosodwr Bournemouth yn penio’n rhy uchel.
Rhwystredigaeth
Roedd na elfen o rwystredigaeth yn dechrau ymddangos ar ôl hanner awr, er fod Cymru’n hawlio’r meddiant.
Daeth cyfle arall wedi 28 munud – Kieffer Moore unwaith eto ar flaen y gâd yn ergydio heibio’r postyn ar ôl cymal o basio medrus gan Gymru.
Cyfle Neco Williams oedd hi i ddisgleirio ychydig funudau wedyn – gydag ergyd nerthol y tro hwn yn hedfan dros y bar.
Fe gafwyd bygythiad arall gan Latfia yn fuan wedyn gyda Vladislavs Gutkovskis yn penio’n nerthol o gic gornel, ond yn rhy llydan i sgorio.
Derbyniodd Harry Wilson gerdyn melyn wedi 35 munud am drosedd.
Ddau funud yn ddiweddarach roedd Cymru’n dadlau fod Latfia wedi llawio’r bêl yn y cwrt cosbi, ond nid oedd y dyfarnwr yn cytuno.
Eiliadau’n ddiweddarach fe ddaeth cyfle i Ampadu gyda ergyd nerthol yn hedfan dros y bar.
Mwy gan Moore
Gyda 40 munud ar y cloc, er mawr ryddhad i’r Wal Goch, aeth Cymru ar y blaen. James y tro hwn yn croesi ar draws y cwrt cosbi, a’r bêl yn darganfod Kieffer Moore – peniad arall ond y tro hwn yn cyrraedd y nod. Cymru 1-0 Latfia, a’r dorf yn dathlu yn y glaw.
Fe ddechreuodd Latfia golli eu disgyblaeth ychydig cyn yr hanner, wrth i’w rhwystredigaeth gynyddu, gyda sawl tacl fler yn llorio un neu ddau o chwaraewyr Cymru.
Eiliadau cyn diwedd y 45 munud cyntaf, fe ddaeth cyfle arall i Gymru gydag ergyd o bell i Harry Wilson yn cael ei harbed gan Pavels Steinbors.
Bu ond y dim i Gymru gynyddu’r fantais funudau wedi dechrau’r ail hanner – Neco Williams yn ergydio’n nerthol ond golwr Latfia’n arbed gan dasgu’r bêl heibio’r bar.
Daeth cyfle arall i Wilson eiliadau’n ddiweddarach – ond Pavels Steinbors yn sefyll yn y bwlch unwaith eto ar noson brysur i’r golwr.
Roedd hyder Neco Williams yn tyfu wrth i’r gêm ddatblygu, gan ymdrechu i ergydio sawl gwaith.
Ar yr awr fe dderbyniodd capten Latfia, Antonijs Cernomordijs, gerdyn melyn am drosedd ar Harry Wilson.
Ar ôl i’r ymwelwyr wneud nifer o newidiadau fe gafwyd cyfnod eithaf ansicr i Gymru, ac roedd angen ailgydio yn y momentwm unwaith eto.
Eilyddio
Daeth cyfle i arwr Split ddod i chwarae ei ran wedi 72 o funudau – a chroeso cynnes i Nathan Broadhead gan y Wal Goch ar ei ail ymddangosiad i Gymru, gyda Daniel James yn gadael y cae.
Dewis arafu’r chwarae wnaeth Cymru gyda chwarter awr i fynd – ond gyda dim ond mantais o un gôl gan y crysau cochion, roedd Latfia’n parhau i ymosod ar gyfnodau.
Gyda 10 munud yn weddill ar y cloc, daeth cyfle arall i Gymru – Neco Williams gydag ergyd nerthol unwaith eto ond yn methu’r targed.
Doedd dim llawer o batrwm i’r chwarae erbyn hyn, gyda sawl chwaraewr yn edrych ychydig yn flinedig a sawl pas yn fler.
Fe eilyddiodd Latfia unwaith eto ar ôl 81 munud – Aleksejs Saveljevs a Raimonds Krollis yn ymuno â’r chwarae yn y gobaith o danio’r crysau gwynion.
Daeth cyfle prin i Latfia wedi 84 munud – ond ergyd fler Renars Varslavans yn gwibio dros y bar.
Cynyddu oedd y pwysau ar Gymru yn y munudau olaf, a Latfia’n cael cic gornel, ond aeth ergyd Krollis yn wastraffus o uchel.
Cafodd Ollie Cooper ei gap rhyngwladol cyntaf ar ôl cael ei eilyddio yn ystod amser ychwanegol – gyda Ramsey’n gadael y cae.
Roedd eiliadau olaf y gêm yn rhai pryderus i Gymru, gyda’r fantais denau’n un fregus ar gyfnodau.
Cafodd Harry Wilson ei eilyddio am Ben Cabango yn yr eiliadau olaf – cyn i’r chwiban olaf gael ei chwythu.
Cymru 1-0 Latfia, a phedwar pwynt ar ôl dwy gêm i Gymru yn yr ymgyrch i gyrraedd yr Almaen.
Erthygl gan Newyddion S4C