Siom i Gymru wrth golli 0-1 yn erbyn Norwy yng ngemau rhagbrofol Ewro 2022.
Sgoriodd Frida Maanum unig gôl y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i Norwy sicrhau’r fuddugoliaeth, ennill grŵp rhagbrofol C ac ennill eu lle ym mhencampwriaeth Ewro 2022.
Mae tîm Jayne Ludlow yn gobeithio dal eu gafael ar yr ail safle yn y grŵp – a lle yn y gemau ail gyfle, ond mae canlyniad nos Fawrth yn golygu bod Gogledd Iwerddon sydd â’r fantais oherwydd eu gemau wrth gefn.
Bydd Cymru yn croesawu Belarws i Rodney Parade ar y 1af o Ragfyr yn eu gêm olaf o’r ymgyrch ragbrofol.
Ymateb Jayne Ludlow