Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad sylweddol i’r JD Cymru Premier
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru am fuddsoddi dros £6miliwn yn y JD Cymru Premier, y buddsoddiad unigol mwyaf erioed yng nghynghrair uchaf Cymru.
Mae’r buddsoddiad ar gyfer datblygu’r gynghrair ar gael nawr tan ddiwedd tymor 2026/27.
Ym mis Rhagfyr 2023, penododd CBDC Jack Sharp yn Bennaeth Cynghreiriau Domestig, sef y cam cyntaf yn y broses o weithredu strategaeth y JD Cymru Premier sy’n seiliedig ar ymgynghoriadau â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys clybiau, cefnogwyr a’r cyfryngau.
Mae’r cyllid hwn yn darparu’r sylfeini ar gyfer cyflawni’r strategaeth hon ac mae’n elfen allweddol cyn i’r amserlen gael ei lansio’n gyhoeddus yn y misoedd nesaf.
Dywedodd Jack Sharp, Pennaeth Cynghreiriau Domestig CBDC: “Mae’n wych gallu dod â’r lefel hon o fuddsoddiad i mewn i’r uwch gynghrair, i ddechrau creu canlyniadau cryfach i’r gynghrair a’n clybiau sydd wedi bod yn sylfaenol yn y broses hon.
“Bydd y cronfeydd hyn yn ein galluogi i adeiladu proffil, ansawdd, a strwythur ein gêm ar y cae ac oddi arno, er mwyn helpu i godi safonau a chysylltiadau cyfunol â chymunedau lleol.
“Dros y pedair blynedd nesaf, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gweithio tuag at ddatblygu cynghrair sy’n perfformio’n dda, gyda hunaniaeth glir, y gall y wlad gysylltu ag ef a bod yn falch o JD Cymru Premier a’r pyramid pêl-droed domestig.
“Ers i mi ddechrau fy rôl yn CBDC, mae lefel y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud y tu ôl i’r llen tuag at lunio’r strategaeth wedi bod yn glir i’w weld a bydd pawb yn gweld newidiadau cadarnhaol yn cael eu rhoi ar waith yn fuan iawn.”
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr CBDC: “Mae llawer iawn o waith wedi’i wneud i’r broses ymgynghori o lunio strategaeth y JD Cymru Premier. Rydym yn gyffrous iawn i ddatgelu ein llinellau amser ar gyfer newid sylfaenol i godi proffil ein prif gynghrair.
“Dyma gyllid sylweddol a’r ymrwymiad mwyaf i’r JD Cymru Premier yn ei 32 mlynedd. Pêl-droed yw prif gamp Cymru ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisiau gwneud y JD Cymru Premier yn biler allweddol.”