Mae’r Gymdeithas Bêl-droed, S4C a Sgorio wedi cadarnhau rhestr ddiweddar o gemau byw dros yr wythnosau nesaf.
Bydd camerâu Sgorio yn teithio i Barc Jenner ddydd Sadwrn ar gyfer Y Barri v Y Drenewydd am 2.30.
Yn wreiddiol roedd Sgorio am ddangos Pen-y-bont v Caernarfon, ond oherwydd bod carfan Pen-y-bont yn hunan ynysu wedi i un aelod o’r garfan dderbyn prawf Covid-19 positif, mae’r gêm yma wedi ei ohirio.
Dros yr wythnosau nesaf bydd Sgorio yn ymweld a’r Graig a Stadiwm SDM Glass wrth i Derwyddon Cefn a Pen-y-bont ymddangos ar Sgorio am y tro cynta’r tymor yma.
Bydd y gorau o bêl droed y Cymru Premier JD i’w weld ar S4C a llwyfannau ar-lein Sgorio, gyda’r rhestr llawn o’r gemau byw i’w gweld isod.
Gemau gemau byw Sgorio
21/11 – Y Barri v Y Drenewydd – S4C – 2.30
27/11 – Y Bala v Y Drenewydd – gweddarllediad – 7.45
28/11 – Cei Connah v Y Barri – S4C – 1.30
05/12 – Pen-y-bont v Caernarfon – S4C – 2.15
08/12 – Derwyddon Cefn v Caernarfon – gweddarllediad 7.45
12/12 – Cei Connah v YSN – S4C – 4.30
15/12 – Pen-y-bont v Met Caerdydd – gweddarllediad 7.45
18/12 – Caernarfon v Y Drenewydd – gweddarllediad 7.45
19/12 – Y Fflint v Aberystwyth – S4C – 4.30
26/12 – Y Bala v Caernarfon – S4C
01/01 – Y Bala v Cei Connah – S4C