Cafodd y gemau ar gyfer rownd gyntaf Cwpan Nathaniel MG eu cyhoeddi gan y Gymdeithas Bêl-droed nos Fercher, 2 Rhagfyr.
Bydd clybiau o haen 1 a 2 y pyramid pêl-droed yn cystadlu yn y gystadleuaeth, gyda’r Gymdeithas hefyd yn gwahodd Caerdydd a Chasnewydd i gystadlu’r tymor hwn.
Mae clybiau’r Cymru Premier, y clybiau a ddisgynnodd o’r uwch gynghrair (Airbus UK a Caerfyrddin) a’r dau dîm uchaf yn haen 2 nath ddim sicrhau dyrchafiad i’r uwch gynghrair (Prestatyn a Prifysgol Abertawe), yn ymuno a’r gystadleuaeth yn yr ail rownd.
Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar benwythnos 11/12 Rhagfyr.