Mewn seremoni ym mhencadlys Uefa yn Zurich prynhawn Llun, 7 Rhagfyr cafodd gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 eu dethol.
Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg, Y Weriniaeth Tsiec, Belarws ac Estonia yng ngrŵp E, gyda Cymru yn gobeithio ennill lle yn y gystadleuaeth sy’n cael ei gynnal yn Quatar rhwng 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2022.
Bydd y gemau rhagbrofol yn cael eu chwarae rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2021, gydag enillwyr y grŵp yn camu ymlaen i gystadlu yng Nghwpan y Byd 2022, gyda’r timau yn yr ail safle yn ennill lle yn y gemau ail gyfle.
Dywedodd rheolwr dros dro Cymru, Robert Page y bydd timau eraill yn ‘parchu’ Cymru am eu llwyddiannau diweddar – gyda Chymru heb golli yn eu 11 gêm gystadleuol ddiwethaf.
Cyfweliad fideo Robert Page
Cynghrair y Cenhedloedd a’r gemau ail gyfle
Gan y bod Cymru wedi ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd mae posibilrwydd y bod Cymru yn gallu cyrraedd y gemau ail gyfle oherwydd hyn.
Bydd dau o’r enillwyr grŵp gorau o Gynghrair y Cenhedloedd sydd ddim yn ennill lle i Gwpan y Byd 2022 drwy ennill eu grŵp rhagbrofol, neu’n gorffen yn yr ail safle – yn ymuno â’r 10 tîm sydd yn y gemau ail gyfle.
Felly, y bydd 12 tîm yn cystadlu yn y gemau ail gyfle gyda thri lle yn y brif gystadleuaeth ar gael.
Gemau Cymru yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022
- Gwlad Belg v Cymru – Mercher, 24 Mawrth 19:45
- Cymru v Y Weriniaeth Tsiec, Mawrth, 30 Mawrth 19:45
- Belarws v Cymru – Sul, 05 Medi 15:00
- Cymru v Estonia – Mercher, 08 Medi 19:45
- Y Weriniaeth Tsiec v Cymru – Gwener, 08 Hydref 19:45
- Estonia v Cymru – Llun, 11 Hydref 19:45
- Cymru v Belarws – Sadwrn, 13 Tachwedd 19:45
- Cymru v Gwlad Belg – Mawrth 16 Tachwedd 19:45
Ystadegau
Mae record diweddar Cymru yn dda iawn mewn gemau cystadleuol, gyda’r tîm heb golli mewn 11 gêm – record sy’n estyn nôl i haf 2019.
Mae’r cochion hefyd wedi sicrhau lle yn Ewro 2021 gan orffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol ac ennill eu grŵp Cynghrair y Cenhedloedd gan ildio dim ond un gôl!
Gwlad Belg
Dyw Cymru heb golli i Wlad Belg yn eu pedair gêm ddiwethaf rhwng y gwledydd – dwy gêm gyfartal a dwy fuddugoliaeth.
Ers i Gymru guro Gwlad Belg 3-1 yn rownd yr wyth olaf Euro 2016 mae Gwlad Belg wedi gorffen yn y trydydd safle yng Nghwpan y Byd 2018, gorffen ar frig eu grŵp rhagbrofol Euro 2020 ac ennill eu grŵp Cynghrair y Cenhedloedd.
Y Weriniaeth Tsiec
Dyw Cymru erioed wedi curo’r Weriniaeth Tsiec!
Gêm gyfartal oedd hi y tro diwethaf i’r gwledydd gwrdd yn ôl yn 2012, gêm ddi-sgôr yn Stadiwm Principality, Caerdydd yn gemau rhagbrofol Ewro 2008.
Yn ddiweddar mae’r Weriniaeth Tsiec wedi ennill lle yn Euro 2021 ac ennill dyrchafiad i Gynghrair A yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ôl ennill eu grŵp yng nghynghrair B.
Belarws
Mae Cymru wedi ennill 4 o’u 5 gêm yn erbyn Belarws – y diwethaf yn ôl ym mis Medi 2019, Dan James yn sgorio unig gôl y gêm mewn gêm gyfeillgar.
Dyw Belarws erioed wedi ennill lle ym mhencampwriaeth Euro na Chwpan y Byd.
Estonia
Mae gan Gymru record 100% yn erbyn Estonia gan ennill dwy gêm – y tro diwethaf yn 2009, Robert Earnshaw yn sgorio unig gôl y gêm ar Barc y Scarlets, Llanelli mewn gêm gyfeillgar.
Fel Belarws, dyw Estonia erioed wedi ennill lle ym mhencampwriaeth Euro a Chwpan y Byd.
‘Ni mewn lle da’ – ymateb Gwennan Harries, cyn ymosodwr Cymru.