Cyhoeddi Gemau Ewropeaidd
Taith i Armenia i Gei Connah yng Nghynghrair y Pencampwyr wrth i’r Seintiau Newydd, Y Bala a’r Drenewydd deithio i Iwerddon ar gyfer eu gemau yng Ngyngres Europa.
Ar fore Mawrth, 15 Mehefin cafodd y seremoni cyhoeddi gemau rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr a Cyngres Europa ei gynnal ym mhencadlys Uefa yn Nyon, Y Swisdir – gyda Cei Connah, Y Seintiau Newydd, Y Bala a’r Drenewydd yn cynrychioli’r Cymru Premier.
Bydd Cei Connah yn wynebu Pencampwyr Armenia, FC Alashkert dros ddau gymal yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.
Mae Pencampwyr y Cymru Premier eisoes wedi cyhoeddi y bydd eu gemau cartref yn cael ei cynnal ar Goedlan y Parc, Aberystwyth gyda’r Alashkert yn teithio i Gymru ar gyfer y cymal cyntaf ar yr 6ed neu’r 7fed o Orffennaf.
Dyma’r ail dro i dîm Andy Morrison gystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr ar ôl colli i FK Sarajevo yn rownd ragbrofol gyntaf y gystadleuaeth y tymor diwethaf.
Cystadleuaeth newydd yw Cyngres Europa – trydedd haen pêl-droed Ewropeaidd UEFA a bydd Y Seintiau Newydd, Y Bala a’r Drenewydd yn cystadlu yn y rownd ragbrofol gyntaf.
Bydd Y Bala yn wynebu Larne o Ogledd Iwerddon yn y rownd ragbrofol gyntaf – gyda thîm Colin Caton yn chwarae eu cymal cartref yng nghartref Y Seintiau Newydd, Neuadd y Parc ar yr 8fed o Orffennaf. Bydd yr ail gymal yn cael eu cynnal yn Inver Park, Larne ar y 15fed o Orffennaf.
Dyma’r tro cyntaf i Anthony Limbrick arwain Y Seintiau Newydd i Ewrop gyda’r clwb o Groesoswallt yn teithio i Glentoran o Ogledd Iwerddon.
Ar ôl ennill y gemau ail gyfle bydd Y Drenewydd yn wynebu un o gewri Uwch Gynghrair Iwerddon yng ngemau rhagbrofol Cyngres Europa.
Dundalk, Pencampwyr Uwch Gynghrair Iwerddon ar 14 achlysur fydd yn herio tîm Chris Hughes. Bydd Y Drenewydd yn chwarae eu cymal cartref ar Neuadd y Parc.
Cynghrair y Pencampwyr
Cei Connah v Alashkert – 6/7 Gorffennaf a’r 13/14 Gorffennaf
Cyngres Europa
Glentoran v Y Seintiau Newydd – 8 Gorffennaf a 15 Gorffennaf
Y Bala v Larne – 8 Gorffennaf a 15 Gorffennaf
Y Drenewydd v Dundalk – 8 Gorffennaf a 15 Gorffennaf