Cei Connah i groesawu Sarajevo i Stadiwm Dinas Caerdydd yng Nghynghrair y Pencampwyr, a’r Bala a’r Barri i deithio oddi cartref ar gyfer gemau yng Nghynghrair Europa.
Erbyn hyn rydym yn gwybod pwy fydd gwrthwynebwyr y clybiau o Gymru yn gemau rhagbrofol cystadlaethau Ewropeaidd dros yr haf.
Bydd Pencampwyr y Cymru Premier, Cei Connah yn croesawu Sarajevo i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Oherwydd amgylchiadau iechyd a diogelwch Covid-19 mae angen i’r Nomadiaid chwarae’r gêm tu ôl i ddrysau caeedig yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda’r gêm i’w chwarae ar 19 Awst.
Yng Nghynghrair Europa bydd Y Seintiau Newydd a’r Bala yn dechrau eu hymgyrch Ewropeaidd yn y rownd ragbrofol gyntaf, gyda’r Seintiau yn croesawu MŠK Žilina o Slofacia a’r Bala yn teithio I Malta I wynebu Valletta.
Bydd gemau rownd ragbrofol gyntaf y gystadleuaeth yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 27 Awst, gyda lleoliadau’r gemau eto i’w cadarnhau.
Mi fydd Y Barri yn teithio i Ynysoedd y Ffaroe i herio NSÍ Runavík yn rownd gyn-ragbrofol Cynghrair Europa ar yr 20fed o Awst.
Dyddiadau Gemau Ewropeaidd Haf 2020
Rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr – Cei Connah v Sarajevo – 19/08
Rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa – Y Seintiau Newydd v MŠK Žilina – 27/08
Rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa – Valletta v Y Bala – 27/08
Rownd gyn-ragbrofol Cynghrair Europa – NSÍ Runavík v Y Barri – 20/08