S4C

Navigation

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed, S4C a Sgorio wedi cadarnhau rhestr ddiweddar o gemau byw dros yr wythnosau nesaf.

Bydd Camerâu Sgorio yn teithio i Neuadd y Parc ar gyfer eu gêm byw cyntaf wedi’r cyfnod clo byr ddod i ben yng Nghymru.

 

Y Seintiau Newydd, sydd ar frig y gynghrair, sy’n croesawu’r Barri ar ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd, gyda’r gic gyntaf am 5.15.

 

Bydd Pen-y-bont yn ymddangos yn fyw ar Sgorio am y tro cyntaf y tymor hwn, gyda thîm Rhys Griffiths yn croesawu Caernarfon i Stadiwm SDM Glass prynhawn Sadwrn, 21 Tachwedd gyda’r gic gyntaf am 2.30.

 

Dros benwythnos 27-28 Tachwedd bydd dwy gêm fyw, y cyntaf ar-lein nos Wener rhwng Y Bala a’r Drenewydd ar Faes Tegid, gyda’r gic gyntaf am 7.45.

 

Bydd yr ail gêm fyw o’r penwythnos yn dod o Stadiwm Glannau Dyfrdwy, gyda Chei Connah yn croesawu’r Barri am 1.30 prynhawn Sadwrn, 28 Tachwedd.

 

Rhestr gemau byw Sgorio

14/11 – Y Seintiau Newydd v Y Barri – 5.15

21/11 – Pen-y-bont v Caernarfon – 2:30

27/11 – Y Bala v Y Drenewydd (yn fyw arlein) – 7.45

28/11 – Cei Connah v Y Barri – 1:30

 

 

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?