Wedi diweddglo cyffrous i hanner cynta’r tymor, bydd sylw Sgorio yn troi at y ras am y bencampwriaeth – gyda’r Gymdeithas Bêl-droed, S4C a Sgorio yn cadarnhau rhestr gemau byw dros yr wythnosau nesaf.
Ar ôl diweddglo dramatig i hanner cynta’r tymor, gyda Phen-y-bont a Chaernarfon yn sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf – bydd sylw camerâu Sgoirio yn troi at y ras am y bencampwriaeth yn eu cyfres o gemau byw nesaf.
Fel yr hanner cyntaf o’r tymor, bydd cyfres o gemau canol wythnos yn cael eu darlledu yn fyw ar-lein (Facebook a Youtube), gyda gemau ar y Sadwrn yn cael eu darlledu ar S4C ac ar Facebook a Youtube.
Bydd camerâu Sgorio yn teithio i Faes Tegid ar ddydd Sadwrn 10 Ebrill ar gyfer y gêm fyw gyntaf o ail hanner y tymor, gyda’r Bala yn croesawu’r Seintiau Newydd – 3ydd v 2il yn y Cymru Premier.
Rhestr gemau byw Sgorio:
10/4 – Y Bala v Y Seintiau Newydd 5.15, S4C
13/4 – Caernarfon v Cei Connah – 7.45, Arlein
17/4 – Y Seintiau Newydd v Pen-y-Bont – 5.15, S4C
20/4 – Cei Connah v Y Bala – 7.45, Arlein