S4C

Navigation

Bydd Cymru yn teithio i Wembley ar gyfer gêm gyfeillgar gyda Lloegr ar nos Iau 8fed o Hydref cyn wynebu Gweriniaeth Iwerddon (11/10) a Bwlgaria (14/10) yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA. Y Gemau i gyd yn fyw ar Sgorio.

Y newyddion mawr yw bod Gareth Bale yn methu tair gêm nesaf Cymru wrth iddo ddychwelyd i ffitrwydd ar ôl ymuno â Tottenham Hotspur o Real Madrid yn gynharach yn y mis.

Dyma’r tro cyntaf i Bale fethu gêm gystadleuol i Gymru ers Hydref 2017, lle’r oedd o yn absennol o gemau rhagbrofol Cwpan y byd 2018 yn erbyn Georgia a Gweriniaeth Iwerddon.

Mae amddiffynnwr Abertawe, Joe Rodon yn dychwelyd i’r garfan ar ôl methu’r gemau yn erbyn Y Ffindir a Bwlgaria oherwydd anaf.

Mae Rodon yn rhan o amddiffyn Abertawe sydd eto i ildio yn y Bencampwriaeth, gyda Ben Cabango a Connor Roberts hefyd o amddiffyn Abertawe yn rhan o garfan Cymru.

Enw newydd i’r garfan yw Rhys Norrington-Davies, amddiffynnwr sydd ar fenthyg yn Luton Town o Sheffield United.

Carfan Cymru i wynebu Lloegr, Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria

Gôl-geidwaid: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies.

Amddiffynwyr: Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Chris Mepham, Joe Rodon, Neco Williams, Ben Cabango, Rhys Norrington-Davies.

Canol cae: Aaron Ramsey, Jonathan Williams, Harry Wilson, David Brooks, Joe Morrell, Will Vaulks, Matthew Smith, Dylan Levitt, Brennan Johnson.

Ymosodwyr: Hal Robson-Kanu, Daniel James, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Ben Woodburn, Rabbi Matondo.

Gemau Cymru yn yr Hydref, i gyd yn fyw ar S4C:

Lloegr v Cymru – gêm gyfeillgar – 8/10/20 – 7.45, yn fyw ar S4C
Gweriniaeth Iwerddon v Cymru – Cynghrair y Cenhedloedd UEFA – 11/10/20 – 2.00, yn fyw ar S4C
Bwlgaria v Cymru – -Cynghrair y Cenhedloedd UEFA – 14/10/20 – 2.00, yn fyw ar S4C

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?