S4C

Navigation

Mae Robert Page wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gemau oddi cartref yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ac Estonia yn ge-mau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

 

Bydd rhaid i Gymru ymdopi heb Gareth Bale ar gyfer y gemau – gyda’r blaenwr yn methu’r gemau oherwydd anaf i’w linyn y gar.

Mae’r chwaraewr Real Madrid un cap i ffwrdd o gyrraedd ei 100fed.

Yn galonogol mae Aaron Ramsey, Kieffer Moore a Connor Roberts yn dychwelyd i’r garfan ar ôl methu’r fuddugoliaeth dros Belarws a’r gêm gyfartal yn erbyn Estonia.

Enw newydd i’r garfan yw Sorba Thomas, ymosodwr Huddersfield sy’n cael ei enwi yn y garfan am y tro cyntaf.

Dywedodd Rob Page fod Sorba Thomas yn chwaraewr ‘creadigol’ gyda ‘agwedd da’ – rhywbeth fydd y garfan yn elwa ohono.

 

 

Bydd Cymru yn wynebu’r Weriniaeth Tsiec ar nos Wener 8fed o Hydref, cyn teithio i Estonia ar gyfer gêm oddi cartref arall ar nos Lun 11 Hydref.

 

Carfan Cymru i wynebu’r Weriniaeth Siec ac Estonia:

Golwyr: Wayne Hennessey, Daniel Ward, Adam Davies;

Amddiffynwyr: Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Chris Mepham, Joe Rodon, Tom Lockyer, Neco Williams, James Lawrence, Rhys Norrington-Davies;

Canol cae: Aaron Ramsey, Joe Allen, Jonny Williams, Ethan Ampadu, Harry Wilson, David Brooks, Joe Morrell, Matthew Smith, Dylan Levitt;

Ymosodwyr: Daniel James, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Brennan Johnson, Rubin Colwill, Mark Harris, Sorba Thomas.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?