S4C

Navigation

 

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi Carfan Cymru ar gyfer eu tair gêm ym mis Tachwedd.

Bydd Gareth Bale yn dychwelyd i garfan Cymru, gydag Aaron Ramsey yn methu’r gemau oherwydd anaf ym muddugoliaeth Juventus dros Ferencvárosi yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Sgoriodd Bale ei gôl gyntaf i Tottenham Hotspur ers dychwelyd i’r clwb yn y fuddugoliaeth dros Brighton ddydd Sul diwethaf.

Gydag anafiadau i’r golwyr, Wayne Hennessey ac Adam Davies – mae golwr Dunfermline, Owain Fôn Williams yn dychwelyd i’r garfan am y tro cyntaf ers 2017, gyda golwr Casnewydd Tom King hefyd wedi ei enwi.

Mae James Lawrence, Tom Lockyer a Tom Lawrence yn dychwelyd i’r garfan – gyda Hal Robson-Kanu yn methu allan ar ôl torri ei fraich.

Robert Page sydd wrth y llyw ar gyfer y gemau, gyda’r Gymdeithas Bêl-droed yn cyhoeddi yn gynharach yn yr wythnos yma y bydd Ryan Giggs ddim yn arwain y tîm am y tair gêm ym mis Tachwedd.

Gemau Tachwedd

Bydd Cymru yn wynebu’r Unol Daleithiau mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Liberty ar nos Iau, 12 Tachwedd cyn chwarae dwy gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Gweriniaeth Iwerddon fydd yn teithio i Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Sul, 15 Tachwedd cyn i Gymru groesawu’r Ffindir i Gaerdydd nos Fercher, 18 Tachwedd.

 

Carfan Cymru

Golwyr

Danny Ward, Owain Fôn Williams, Tom King

Amddiffynnwyr

Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Chris Mepham, Tom Lockyer, Joe Rodon, Neco Williams, James Lawrence, Ben Cabango, Rhys Norrington-Davies

Canol Cae

Aaron Ramsey, Johnny Williams, Harry Wilson, David Brooks, Daniel James, Matt Smith, Joe Morrell, Dylan Levitt, Brennan Johnson, Josh Sheehan

Ymosodwyr

Gareth Bale, Tom Lawrence, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Rabbi Matondo.

Gemau rhyngwladol byw ar S4C

Cymru v UDA – Nos Iau 12 Tachwedd, CG 7.45pm.
Wales v Republic of Ireland – Nos Sul 15 Tachwedd, CG 5.00pm.
Wales v Finland – Nos Fercher 18 Tachwedd, CG 7.45pm.

 

 

 

 

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?