Yn dilyn buddugoliaeth o drwch blewyn yn erbyn Bwlgaria yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 ddydd Sul, roedd yn rhaid i Gymru wella ar y perfformiad hwnnw yn erbyn Estonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher.
Roedd tri o newidiadau yng ngharfan Robert Page o’r garfan oedd yn chwarae ddydd Sul, gydag Ethan Ampadu yn lle James Lawrence yng nghanol yr amddiffyn, a Brennan Johnson a Rubin Colwill yn ildio eu lle yn y safleoedd ymosodol i Harry Wilson a Tyler Roberts.
Roedd hon yn gêm yr oedd yn rhaid i Gymru ei hennill, gyda Gwlad Belg saith pwynt yn glir o’r crysau cochion ar frig y tabl cyn y gic gyntaf, a’r Weriniaeth Tsiec yn ail.
Gyda’r Wal Goch yn dychwelyd i wylio’r chwarae yn gêm gartref gyntaf carfan Robert Page ers dechrau’r pandemig, roedd y gobeithion – a’r gweiddi – yn uchel ar y noson.
Funud yn unig ar ôl y chwiban gyntaf, fe fethodd Harry Wilson gyfle euraidd ar ôl derbyn y bêl gan Gunter, ond yr ergyd sydyn yn gwyro i’r dde heibio’r targed.
Er i Gymru fethu cyfle cynnar a hawlio’r mwyafrif o’r meddiant, roedd yr hanner awr gyntaf yn rhwystredig i’r tîm cartref.
Cafodd Harry Wilson ei eilyddio ar ôl derbyn anaf i’w ben ac arddangos effeithiau cyfergyd wedi 36 o funudau, gyda Johnny Williams yn dod ar y cae yn ei le.
Funud yn ddiweddarach fe ddaeth Estonia’n agos o fynd ar y blaen wrth i’r crysau gleision dyfu mewn hyder – gydag ergyd o bell gan Mattias Kait yn taro’r trawst.
Prin iawn oedd cyfleoedd Cymru cyn diwedd yr hanner, gyda’r ymwelwyr yn ennill y frwydr yng nghanol y cae. Dî-sgôr oedd hi ar yr hanner, a’r Wal Goch yn adleisio rhwystredigaeth y chwaraewyr ar y cae.
Fe ddechreuodd yr ail hanner gyda’r un rhwystredigaeth i Gymru, oedd yn parhau i fethu a dod o hyd i’r fflach oedd yn ddigon i wneud gwahaniaeth. Ond fe ddaeth cyfle o’r diwedd wedi 55 munud o gic gosb, ar ôl trosedd ar Daniel James ar yr asgell chwith.
Gareth Bale oedd unwaith eto yng nghanol y cyffro, gyda pheniad nerthol yn cael ei harbed gan golwr Estonia, Karl Hein.
Tyler Roberts oedd y nesaf i fethu cyfle gwych ar 60 o funudau – ond ei ergyd yntau yn cael ei harbed gan droed Hein. Cynyddu oedd y pwysau wrth i Gymru ddechrau rheoli unwaith eto.
Ddau funud yn ddiweddarach fe ddaeth gêm Tyler Roberts i ben pan gafodd ei eilyddio am Mark Harris – ei ail gap yn unig dros Gymru ond yn gyfarwydd gyda Stadiwm Dinas Caerdydd ag yntau’n chwarae i’r Adar Gleision.
Cyfle Estonia i eilyddio oedd hi wedi 70 o funudau – Henri Anier a Rauno Sappinen yn gadael y cae ac Erik Sorga a Vlasiy Sinavski yn dod ymlaen yn eu lle.
Ond bu ond y dim i Gareth Bale dorri drwy amddiffyn Estonia wedi 82 o funudau – ei ergyd yn cael ei harbed a’i beniad wedyn yn taro’r postyn.
Daeth dau eilydd ymlaen i Estonia wedi 86 o funudau – cyn i Bale unwaith eto fethu cyfle gyda’i gic rydd yn gwyro’n rhy uchel i newid pethau.
Daeth cyfle hwyr i Estonia gydag ergyd nerthol gan eu capten Vassiljev – ond fe lwyddodd Danny Ward i droi’r bêl heibio’r trawst, cyn gwneud ail arbediad yn sydyn eiliadau wedyn.
Gyda’r eiliadau olaf o’r chwe munud ychwanegol yn diflannu, Robert Page oedd yr un o welodd cerdyn melyn, ac yn fuan wedyn roedd y gêm ar ben. Siom a rhwystredigaeth felly i’r 21,600 o gefnogwyr oedd wedi teithio i Gaerdydd i gefnogi Cymru ar y noson.
Y sgôr ar y chwiban olaf: Cymru 0-0 Estonia.
Erthygl gan Newyddion S4C