S4C

Navigation

Sgorio’n torri tir newydd yn darlledu gêm fyw o Ddinbych yn ail rownd Cwpan Cymru JD.

Nos Wener, 3 Medi 

Dinbych v Caernarfon | Nos Wener – 19:45 

Bydd Sgorio’n darlledu’n fyw o Barc Canol, Dinbych am y tro cyntaf erioed wrth i dîm Dewi Llion Jones o’r drydedd haen herio un o glybiau mwyaf poblogaidd yr uwch gynghrair, Caernarfon. 

Mae hi’n gaddo i fod yn noson arbennig i glwb Dinbych, sydd heb chwarae gêm gartref ers blwyddyn a hanner oherwydd y pandemig, cyn adnewyddu’r cae dros yr haf gyda system draenu newydd.  

Yn 2015/16 fe gyrhaeddodd Dinbych rownd derfynol Cwpan Word ar ôl curo Y Rhyl, Hotspur Caergybi, Airbus UK a Chei Connah, cyn colli 2-0 yn y rownd derfynol yn erbyn Y Seintiau Newydd ar Barc Maesdu, Llandudno. 

Dyna’r tro cyntaf erioed i glwb o du allan i’r uwch gynghrair i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth, a bydd Dinbych yn ysu i achosi sioc arall o flaen y camerâu nos Wener. 

Yn 2017/18 gorffennodd Dinbych yn eu safle uchaf erioed – 2il yng Nghynghrair Huws Gray, bum pwynt y tu ôl i Gaernarfon a enillodd ddyrchafiad i’r uwch gynghrair. 

Ond ers hynny mae Dinbych wedi syrthio i’r drydedd haen, ac ar ôl buddsoddi mewn eisteddle a chae newydd sbon mae’r clwb yn benderfynol o ddringo ‘nôl i fyny’r cynghreiriau. 

Bydd Caernarfon yn awyddus i adael eu marc ar y gystadleuaeth hon ar ôl dod mor agos at gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf erioed yn 2019/20. 

Roedd y Cofis wedi cyrraedd y rownd gynderfynol am y pumed tro yn eu hanes ac yn paratoi i wynebu Met Caerdydd cyn i’r gystadleuaeth gael ei diddymu oherwydd Covid-19. 

Hon fydd gêm gyntaf Caernarfon yn y gystadleuaeth eleni, tra bod Dinbych eisoes wedi ennill dwy gêm oddi cartref i gyrraedd y rownd yma. 

Rhoddodd Dinbych grasfa go iawn i Rhuddlan yn yr ail rownd ragbrofol gan ennill 2-12 yn erbyn y clwb o’r adran îs gyda’r capten Mark Roberts yn rhwydo pum gôl i’r cochion. 

Ond roedd hi’n gêm tipyn gwell yn erbyn Llanuwchllyn yn y rownd ddiwethaf wrth i Ddinbych sicrhau buddugoliaeth o 2-4 yng Nghae Gwalia. 

Mae’r ddau reolwr yn ymwybodol iawn o steil a thactegau ei gilydd gan iddynt gyd-weithio am gyfnod fel hyfforddwyr gyda’r Bala, a chyn hynny roedd Huw Griffiths yn hyfforddi Dewi Llion fel chwaraewr ieuenctid yn Wrecsam. 

Mae yna gyn-enillwyr Cwpan Cymru yn y ddwy garfan gan i amddiffynnwr newydd Dinbych, Stuart Jones, godi’r cwpan gyda’r Bala yn 2017. 

Ond gall amddiffynnwr profiadol Caernarfon, Steve Evans, frolio ei fod wedi ennill y gwpan deirgwaith fel chwaraewr gyda’r Seintiau Newydd. 

Mae’n sicr yn mynd i fod yn noson gyffrous a bydd y cyfan yn fyw am 7.30 ar dudalennau Facebook ac Youtube Sgorio, yn ogystal â S4C Clic. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?