S4C

Navigation

Gwyliwch Coventry City v Wrecsam yng Nghwpan FA Emirates Lloegr yn fyw ar S4C

Fe fydd y gêm yn nhrydedd rownd Cwpan FA Emirates Lloegr rhwng Coventry City a Wrecsam yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C.

Bydd tîm Phil Parkinson yn teithio i’r Stadiwm Coventry Building Society ar nos Sadwrn 7 Ionawr i herio’r tîm sy’n chwarae yn y Bencampwriaeth EFL am le yn nhrydedd rownd y gystadleuaeth.

Fe fydd Sgorio yno i ddangos y gêm yn fyw ar S4C, S4C Clic ac iPlayer, gyda’r gic gyntaf am 5.30yh.

Bydd y Dreigiau yn anelu i barhau a’u rhediad cryf yn y gystadleuaeth, wedi iddynt drechu Oldham o dair gôl i ddim yn y rownd gyntaf, cyn sicrhau buddugoliaeth 4-1 dros Farnborough yn yr ail rownd.

Ond mi fyddant yn wynebu her sylweddol, gyda’r tîm cartref yn chwarae tair adran yn uwch na Wrecsam, sydd yn chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?