Fuodd hi’n bythefnos siomedig i glybiau Cymru’n Ewrop wrth i’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont a Hwlffordd golli dros ddau gymal yn rownd rhagbrofol gyntaf Ewrop.
Ar ôl colli o 3-0 yn y cymal cyntaf yn Lithwania, doedd gêm gyfartal 1-1 ddim yn ddigon i achub Pen-y-bont yn yr ail gymal yn erbyn Kauno Zalgiris.
Ac er eu perfformiad cystadleuol dros y ddwy gêm, diffyg disgyblaeth oedd gwendid Hwlffordd wrth iddyn nhw golli 5-3 dros y ddau gymal yn erbyn Floriana o Malta, gan orffen yr ail gymal gyda dim ond naw dyn ar y cae.
Y Seintiau Newydd oedd y prif ddetholion yn eu gornest yn erbyn KF Shkëndija yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, ond y clwb o Macedonia orchfygodd dros y ddau gymal.
Mae’r Seintiau Newydd felly wedi disgyn i ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA i wynebu pencampwyr Lwcsembwrg, FC Differdange 03.
Y Seintiau Newydd v FC Differdange 03 (Lwcsembwrg) | Nos Fercher, 23 Gorffennaf – 18:00 (Yn fyw arlein)
(Neuadd y Parc, Croesoswallt – Cymal Cyntaf, Ail Rownd Ragbrofol Cyngres UEFA 2025/26)
Mae’r Seintiau Newydd wedi syrthio i rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA ar ôl colli 2-1 dros ddau gymal yn erbyn pencampwyr Macedonia, KF Shkëndija yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2025/26.
Di-sgôr oedd hi wedi’r cymal cyntaf yn Neuadd y Parc, ond Shkëndija oedd y tîm cryfaf yn yr ail gymal, ac er i’r Seintiau amddiffyn yn daer fe ddaeth y gôl fuddugol i bencampwyr Macedonia ym munudau ola’r amser ychwanegol.
Aeth Shkëndija ar y blaen yn haeddiannol wedi llai na 20 munud o’r ail gymal, ond unionodd y Seintiau’r sgôr cyn yr egwyl, wrth i ergyd Dan Williams wyro’n garedig i lwybr Jordan Williams a yrrodd y bêl i fewn i’r rhwyd wag yn erbyn llif y chwarae.
Roedd y cyfleon gwirioneddol yn brin yn ystod yr ail hanner, ond Shkëndija oedd yn pwyso yn yr amser ychwanegol ac fe gafodd y tîm cartref eu haeddiant wedi 116 o funudau gyda’r bêl yn dod oddi ar goes blinedig Jack Bodenham i’w rwyd ei hun.
Mae’r Seintiau felly yn syrthio i ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA i wynebu Differdange 03, a gollodd 4-2 dros ddau gymal yn erbyn Drita o Kosovo dros y pythefnos diwethaf.
Cafodd Differdange eu coroni’n bencampwyr Lwcsembwrg am yr ail flwyddyn yn olynol ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac fel y Seintiau, fe enillon nhw eu cwpan domestig hefyd (Cwpan Lwcsembwrg).
Ond yn wahanol i’r Seintiau, dyw Differdange 03 erioed wedi llwyddo i fynd heibio rowndiau rhagbrofol cystadlaethau Ewrop.
Fe wnaeth Differdange 03 herio’r Bala ddegawd yn ôl yn haf 2015 gan golli’r cymal cyntaf o 2-1 yn Y Rhyl, ond yna curo’r ail gymal o 3-1 gartref yn Lwcsembwrg gan ennill 4-3 dros y ddau gymal.
Y Seintiau Newydd yw clwb mwyaf llwyddiannus Cymru yn Ewrop gan i’r clwb o Groesoswallt chwarae’n gyson ar y cyfandir ers 1996.
Llynedd fe lwyddodd y Seintiau i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed gan gystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA ble chwaraeon nhw yn erbyn Panathinaikos a Fiorentina.
Mae tair gêm Ewropeaidd ddiwethaf y Seintiau yn Neuadd y Parc i gyd wedi gorffen yn ddi-sgôr, ond bydd rhaid i dîm Craig Harrison wneud y mwyaf o’u mantais cartref gan mai dim ond unwaith y maen nhw wedi ennill yn eu 13 gêm ddiwethaf oddi cartref yn Ewrop.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Stade Municipal de la Ville de Differdange ar nos Fawrth, 29 Gorffennaf.
Record YSN yn Ewrop:
Rowndiau: 51 (ennill 12, colli 39) / Gemau: 92 (ennill 20, cyfartal 16, colli 58)
Tro diwethaf: (2024/25) YSN yn llwyddo i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed gan gystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA.





