S4C

Navigation

Tydw i heb ddweud hyn wrth llawer o bobl, ond roeddwn i’n arfer cysgu gyda Dai Davies. Ar wal fy llofft yn Nghaergybi roedd ‘na boster – double page spread – o gylchgrawn Shoot!

Llun o Dai yng nghrys melyn golwr Cymru a’r geiriau “Dai Davies – Wrexham and Wales” wedi ei sgwennu’n falch iawn ar hyd ei waelod. Wrexham AND Wales cofiwch … nid yn unig fod Dai’n chwarae yn y gôl i Wrecsam, roedd o hefyd yn disgleirio dros Wêls.

Roedd y poster yn cael ei le ar fy wal ochr yn ochr â’r poster “punt y pen” o Dai oedd yn cael eu gwerthu am bunt er mwyn codi arian ar gyfer yr Urdd. Ond roedd yr un Shoot! yn golygu lot mwy gan fod Dai wedi cael ei le yn nhudalennau canol y cylchgrawn – dim ond Kevin Keegan, Steve Coppell neu Paul Mariner a Trevor Francis a’u tebyg oedd yn cael y tudalennau canol fel arfer!

Erbyn cyraedd yr ‘Ysgol Fawr’ doedd gwylio gemau’r Home Nations ar y teledu ddim digon da, felly dyma fwydro dad am wythnosau ac wythnosau nes iddo addo mynd a fi i wylio Cymu v Gogledd Iwerddon ar y Cae Ras. Er fod Dai wedi gadael Wrecsam er mwyn ymuno â’r Swans a Mickey Thomas wedi hen adael y Cae Ras, roedd Dai, Joey a Mickey dal yn “hogia ni”, hynny yw, “hogia Wrecsam”.

Roeddwn i’n edrych ymlaen yn eiddgar i gael gweld y tri ohonnyn nhw yn chwarae dros Gymru … ond o, dyna siom, ar ôl cyrraedd y Cae Ras dyma ffendio fod na rhyw foi o’r enw Neville Southall wedi cael crys Dai am y noson!

Bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach, a finnau erbyn hyn yn gyw sylwebydd gyda Radio Cymru, cefais i’r fraint anferthol o eistedd drws nesaf i Dai ym mlychau sylwebu ym meysydd pêl-droed led led Cymru a Lloegr.

Roedd ymweld â’r meysydd gyda Dai wrth fy ochr yn brofiad hynod o bleserus. Roedd gan bobl barch enfawr tuag ato ac roedd yn cael ei adnabod ymhobman – o Barc St James i Barc Waun Dew, o Wrecsam i Rotherham, Ac roedd ganddo stori ar gyfer pob achlysur – pob cae, pob tîm ac, yn amlach na pheidio, am aelod o staff oedd wedi plesio … neu phechu … ar rhyw adeg neu’i gilydd yn ystod y 40 mlynedd diwethaf!

Roedd Dai yn ymwybodol iawn ei fod yn ffodus o allu cael gyrfa yn y byd pêl-droed; fel chwaraewr ac yna fel sylwebydd. Roedd Dai yn gefnogwr ar y cae ac yna’n gefnogwr yn y blwch sylwebu ac mae’r stori amdano’n atgoffa un o brif sylwebwyr pêl-droed y BBC yn un na anghofia’i fyth!

Roedd Wrecsam yn herio Chesterfield yn rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr ac roedd lloc y wasg yn Saltergate yn un eithriadol o gyfyng. Fe ddaeth yn eithaf amlwg fod y sylwebydd o brif sianel radio chwaraeon y BBC wedi dod i arfer gyda moethusrwydd stadiymau Uwch Gynghrair Lloegr.

Ar ôl chwarter awr o wrando arno’n tuchan a chwyno fe drodd Dai at y gŵr bonheddig gan ddweud yn ddigon di flewyn ar dafod: “There are literally thousands of Wrexham fans who would give their right arm to be here today – you are being paid to be here. I think you should be a bit more appreciative of how lucky you are … and shut up!”

Mae’n debyg na chlywyd yr un smic ganddo am weddill y gêm!

Ond fe ddysgais un peth yn sydyn iawn wrth weithio ochr yn ochr â Dai; os oedd o’n gofyn “sut wyt ti?” yr ateb … yn ddi-ffael … oedd “dwi’n champion diolch, Dai”.

A’r rheswm am hynny? Wel yr un tro i mi sôn fod gen i boen yn fy mhen-elin ar ôl chwarae sboncen, fe dreuliodd Dai y gêm gyfan yn rhoi massage i fy mhen-elin ac ysgwydd … ac er yr embaras o gael Dai yn fy nghosi ac yn fy esmwytho am 90 munud, doedd dim ffordd o ddweud “na” … roedd Dai yn foi mawr!

Ers gadael y BBC, bu Dai yn rhan mawr iawn o fy mywyd darlledu gyda chriw Sgorio gan ddarlledu ar gemau Uwch Gynghrair Cymru, gemau Cwpan FA Lloegr a gemau rhyngwladol. Wrth i mi esgyn o fod yn ohebydd, i fod yn is-gynhyrchydd ac yna’n gynhyrchydd ar y rhaglen roedd cyngor Dai a’i brofiad fel cyn chwaraewr ond hefyd fel darlledwr profiadol yn amhrisiadwy. Roedd yn barod iawn ac yn hael iawn gyda’i sylwadau ac os oedd Dai yn dweud “nes ti’n iawn yn fana Gary” roeddwn i’n gwybod fy mod i di gwneud rhywbeth yn iawn!

Dai, roeddet ti’n golwr a hanner, ond yn llawer pwysicach na hynny roeddet yn gyfaill ac yn ŵr bonheddig heb ei ail.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?