Roedd hi’n wythnos lwyddiannus i glybiau Cymru yn Ewrop gyda tri o’r pedwar tîm yn ennill eu cymalau cyntaf yn rownd ragbrofol gyntaf Ewrop.
Dechreuodd y tymor newydd yn addawol nos Fawrth wrth i’r Seintiau sgorio tair gôl yn yr hanner cyntaf i ennill 3-0 gartref yn erbyn pencampwyr Montenegro, FK Dečić.
Yna, cafwyd ambell i sioc nos Iau wrth i Gei Connah daro’n hwyr yn Slofenia i ennill 1-0 oddi cartref yn erbyn NK Bravo, cyn i Gaernarfon ennill 2-0 yn eu gêm gyntaf erioed yn Ewrop yn erbyn Crusaders o Ogledd Iwerddon.
Y Bala yw’r unig rai sydd ar ei hôl hi cyn yr ail gymal, wedi i dîm Colin Caton golli 2-1 yn Neuadd y Parc yn erbyn Paide Linnameeskond o Estonia.
FK Dečić (0) v (3) Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth, 16 Gorffennaf – 20:00
(Stadion Pod Goricom, Montenegro – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2024/25)
Mae’r Seintiau mewn safle delfrydol ar ôl buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 gartref yn erbyn pencampwyr Montenegro, FK Dečić nos Fawrth.
Ar ôl serennu’r tymor diwethaf gan ennill gwobr Esgid Aur y Cymru Premier JD, fe gymrodd hi lai na pedwar munud i brif sgoriwr y llynedd, Brad Young i benio’r Seintiau ar y blaen o groesiad gwych Josh Daniels.
A gyda llai na hanner awr ar y cloc roedd Young wedi dyblu’r fantais gyda pheniad safonol arall o groesiad o’r chwith y tro hwn gan brif grëwr goliau’r tymor diwethaf, Daniel Redmond.
Daeth y drydedd i dîm Croesoswallt wedi 38 munud pan brociodd Danny Davies y bêl rydd i’r rhwyd yn dilyn cic gornel o’r dde i sgorio ei bedwaredd gôl yn Ewrop.
Ac felly y gorffennodd hi, sy’n golygu bod Y Seintiau Newydd yn ffefrynnau i ennill y rownd a chamu ymlaen i ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf ers 2019, i wynebu Ferencváros o Hwngari.
Yn bwysicach na hynny efallai, ydi y byddai curo FK Dečić yn sicrhau bod y Seintiau’n cyrraedd gêm ail gyfle Cyngres Europa.
Pe bae’r Seintiau’n curo FK Dečić, yna’n colli yn erbyn Ferencváros, byddai tîm Craig Harrison yn syrthio i drydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa, ac hyd yn oed pe bae nhw’n colli honno, yna byddai rownd arall i’w chwarae yng ngêm ail gyfle Cyngres Europa.
Ennill honno, a byddai’r Seintiau’n cyrraedd un o brif gystadleuaethau Ewrop am y tro cyntaf erioed.
Ers 1996 mae’r Seintiau Newydd wedi chwarae 79 o gemau yn Ewrop gan ennill 18 o rheiny (23%), ac mewn 40 rownd Ewropeaidd mae’r clwb wedi camu ymlaen ar naw achlysur (23%).
Daeth eu rhediad gorau yn nhymor 2010/11 – er ennill dim ond un rownd y tymor hwnnw (yn erbyn Bohemians yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr), cyn colli yn erbyn Anderlecht, fe gafodd y Seintiau chwarae mewn gêm ail gyfle i gyrraedd Cynghrair Europa.
Ond ar ôl colli 5-2 dros ddau gymal yn erbyn CSKA Sofia mae’r Seintiau’n parhau i freuddwydio am gael cyrraedd rownd y grwpiau.
Yn sicr mae gan y Seintiau fwy o brofiad yn Ewrop na’u gwrthwynebwyr eleni, FK Dečić, sydd ond wedi chwarae dwy rownd flaenorol yn Ewrop, gan golli’r ddwy rownd hynny.
Y tymor diwethaf, fe lwyddodd FK Dečić i ennill pencampwriaeth Montenegro am y tro cyntaf yn eu hanes, ac felly eleni mae’r clwb o dref Tuzi, sy’n agos i’r ffîn gydag Albania, yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf erioed.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ym mhrif ddinas Montenegro yn Stadion Pod Goricom ar nos Fawrth, 16 Gorffennaf, sef y stadiwm cenedlaethol ble bydd Cymru yn wynebu Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.
Bydd enillwyr y rownd hon yn wynebu Ferencváros (Hwngari) yn yr ail rownd ragbrofol, tra bydd y collwyr yn syrthio i Gyngres Europa i herio Ludogorets Razgrad (Bwlgaria) neu Dinamo Batumi (Georgia).
Crusaders (0) v (2) Caernarfon | Nos Fercher, 17 Gorffennaf – 19:45
(Seaview, Belfast – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2024/25)
Ar ôl cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, mae’r freuddwyd yn mynd yn felysach i’r Cofis yn dilyn buddugoliaeth arbennig o 2-0 yn erbyn Crusaders o Ogledd Iwerddon.
Roedd Stadiwm Nantporth yn orlawn ar noson hanesyddol i’r Caneris a chymrodd hi ond pedwar munud cyn i’r dorf ffrwydro ar ôl i Morgan Owen yrru taran o ergyd o du allan y cwrt i do’r rhwyd i sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb, a gôl gyntaf gofiadwy i Gaernarfon yn Ewrop.
Ac ar ôl rheoli’r hanner cyntaf cafodd Caernarfon eu haeddiant cyn yr egwyl wrth i Zack Clarke fanteisio ar bas dreiddgar Darren Thomas a llithro’r bêl heibio’r golwr gyda’r Cofi Army yn gorfoleddu, a’r rheolwr Richard Davies yn pinsio ei hun ar y fainc.
Chwaraeodd Caernarfon yn broffesiynol yn yr ail hanner i ddal gafael ar eu dwy gôl o fantais ac roedd y dathliadau ar y chwiban olaf yn profi gymaint oedd y canlyniad yn ei olygu i’r clwb ac i’r dref gyfan.
O ran y gwrthwynebwyr, mae gan Crusaders ddigonedd o brofiad Ewropeaidd ar ôl chwarae 55 o gemau’n Ewrop ers eu hymddangosiad cyntaf yn 1967, gan ennill naw o rheiny (ennill 16%).
Mae’r clwb o Belfast wedi wynebu enwau mawr ar hyd a lled Ewrop, yn cynnwys Valencia, Lerpwl, Fulham, Wolves a Chasnewydd!
Mae’r Crues wedi cael ychydig o lwyddiant yn Ewrop yn ddiweddar, gan ennill eu rownd ragbrofol gyntaf yng Nghyngres Europa yn y ddau dymor diwethaf, yn curo Bruno’s Magpies (Gibraltar) a Haka (Y Ffindir).
Gorffennodd Crusaders yn bedwerydd yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon 2023/24, ac fel Caernarfon bu rhaid i’r clwb ennill y gemau ail gyfle i hawlio eu lle’n Ewrop.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Seaview, Belfast ar nos Fercher, 17 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu Legia Warszawa (Gwlad Pwyl) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Legia Warszawa yw clwb mwyaf llwyddiannus holl hanes Gwlad Pwyl, ac mae eu torf yn adnabyddus fel rhai angerddol a thanllyd.
Mae’r clwb o brif ddinas Gwlad Pwyl wedi chwarae dros 250 o gemau’n Ewrop gan gyrraedd rownd y grwpiau ar saith achlysur ers 2011, a churo timau fel Aston Villa, Leicester City, Sporting Lisbon a Celtic yn ddiweddar.
Byddai cael camu ymlaen i wynebu clwb o statws Legia Warszawa yn gamp aruthrol i Gaernarfon, ond bydd angen perfformiad arwrol arall yn Belfast os am gadw’r freuddwyd yn fyw.
Paide Linnameeskond (2) v (1) Y Bala | Nos Iau, 11 Gorffennaf – 17:30
(Pärnu Rannastaadion, Estonia – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2024/25)
Ar ôl un flwyddyn i ffwrdd, roedd Y Bala’n dychwelyd i Ewrop eleni am eu 10fed rownd Ewropeaidd, ond yr un hen stori oedd hi i Hogiau’r Llyn, yn colli gêm agos yn erbyn Paide o Estonia.
Wedi hanner cyntaf cystadleuol, yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi 64 munud yn Neuadd y Parc gyda’r eilydd, Abdoulie Ceesay yn sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb.
Ac roedd hi’n edrych fel bod yr ornest ar ben pan darodd Predrag Medic yr ail i Paide wedi 90 munud gyda ergyd o bellter yn sleifio o dan gorff golwr newydd Y Bala, Joel Torrance.
Ond mae’r Bala wedi cael achubiaeth diolch i gic o’r smotyn hwyr Josh Ukek wedi 95 munud, sy’n golygu mae dim ond un gôl sy’n gwahanu’r ddau dîm cyn yr ail gymal.
Mae’r Bala wedi cystadlu’n gyson yn Ewrop ers degawd, ond dyw’r canlyniadau heb fod yn wych gyda’r clwb wedi chwarae 17 gêm, ennill pedair, a churo dim ond un rownd allan o naw (yn erbyn Valletta yn 2020).
Roedd Y Bala’n hynod o anlwcus yn eu hymddangosiad diwethaf yn Ewrop, wrth golli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Sligo Rovers o Weriniaeth Iwerddon yn haf 2022.
Fel Cei Connah, mae’r Bala’n wynebu tîm gymharol newydd gan does ond 20 mlynedd ers i glwb Paide Linnameeskond gael ei ffurfio yng nghanolbarth Estonia.
Gorffennodd Paide yn bedwerydd yn nhymor 2023 y Meistriliiga i sicrhau lle’n Ewrop, ac mae’r tîm yn parhau’n yr un safle ar ôl 20 gêm yn nhymor 2024.
O’r pedwar clwb sy’n herio timau Cymru yr haf yma, Paide yw’r unig rai sydd yn chwarae trwy’r haf ac sydd yng nghanol eu tymor domestig ar hyn o bryd.
Doedd Paide ond wedi ennill un o’u 11 gêm flaenorol yn Ewrop, ond yn rhyfeddol mae nhw wedi ennill dwy allan o’u chwe rownd.
Yn haf 2022 fe guron nhw Dinamo Tbilisi o Georgia ar giciau o’r smotyn ar ôl ennill o 3-2 yn y cymal oddi cartref, sef eu hunig fuddugoliaeth flaenorol mewn 90 munud.
Ac yn y rownd ganlynol, ar ôl dwy gêm ddi-sgôr yn erbyn Ararat-Armenia, fe enillon nhw eto ar giciau o’r smotyn i gyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa, ble gollon nhw yn erbyn Anderlecht.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Pärnu Rannastaadion ar nos Iau, 18 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu Stjarnan (Gwlad yr Iâ) neu Linfield (Gogledd Iwerddon) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Cei Connah (1) v (0) NK Bravo | Nos Iau, 18 Gorffennaf – 18:30
(Nantporth, Bangor – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2024/25)
Cei Connah achosodd brif sioc yr wythnos ar ôl trechu NK Bravo o Slofenia, oedd yn ffefrynnau clir cyn y cymal cyntaf nos Iau.
Roedd hi’n ddi-sgôr yn Ljubljana am 83 munud tan i’r eilydd Elliott Dugan benio yn erbyn trawst, a’r eilydd arall Ben Maher yn ymateb yn gynt na neb i blannu foli i gefn y rhwyd yn ei gêm gyntaf i’w glwb newydd ar ôl gadael Caernarfon dros yr haf.
Mae’r Nomadiad yn hen bennau ar gystadlu’n Ewrop bellach ar ôl chwarae 21 gêm (ennill 5) a chamu ‘mlaen ar ddau achlysur yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Stabaek yn 2016/17 a Kilmarnock yn 2019/20.
Mae NK Bravo o Ljubljana, sef prif ddinas Slofenia, yn glwb gymharol newydd ffurfiodd yn 2006, ac ar ôl dringo’r cynghreiriau yn y degawd diwethaf, dyma eu hymddangosiad cyntaf erioed yn Ewrop.
Mae gan reolwr Cei Connah, Neil Gibson atgofion melys o chwarae’n Ewrop ar ôl sgorio gôl dyngedfennol wrth i Brestatyn guro Liepajas Metalurgs o Latfia yn 2013.
Ar ôl colli eu chwe rownd flaenorol yn Ewrop, mae’r gobeithion yn uchel i’r Nomadiaid fydd yn targedu eu buddugoliaeth gyntaf dros ddau gymal ers curo Kilmarnock yn 2019.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Nantporth, Bangor ar nos Iau, 18 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu HŠK Zrinjski Mostar (Bosnia) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Mae gan HŠK Zrinjski Mostar lwyth o brofiad yn Ewrop, ac ar ôl dod yn agos ar sawl achlysur fe gyrhaeddon nhw rownd y grwpiau am y tro cyntaf erioed y tymor diwethaf gan gystadlu yn yr un grŵp ag Aston Villa, AZ a Legia Warszawa yng Nghyngres Europa.