Fe lwyddodd Gareth Bale i achub Cymru unwaith eto, gyda chic gosb hwyr gan y capten yn sicrhau gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau yng ngêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd.
Roedd Cymru’n ddifflach ac yn chwarae’n flêr ar brydiau yn ystod yr hanner cyntaf gyda thîm bywiog America yn rheoli’r mwyafrif o’r chwarae.
Aeth yr Americanwyr ar y blaen ar ôl 36 munud wrth i Tim Weah ddarganfod rhwyd Cymru ar ôl rhediad a phas drwy’r amddiffyn gan Christian Pulisic.
Fe wnaeth Rob Page newid ar yr hanner yn dod â’r ymosodwr Kieffer Moore ymlaen, fe lwyddodd hyn i ddeffro’r Crysau Cochion.
Roedd presenoldeb y cawr yn amlwg ar y chwarae, ac wrth i Gymru gynyddu’r tempo, fe ddaeth Ben Davies a Moore yn agos iawn at ddod a’r sgôr yn gyfartal.
Yna gyda naw munud yn weddill, cafodd Bale ei dynnu i’r llawr yn y cwrt cosbi gan Tim Ream, cyn i’r Cymro fynd ymlaen i chwipio’r bêl o’r smotyn yn hyderus i’r rhwyd a dod a Chymru yn gyfartal.
Gorffennodd Cymru’r gêm yn gryf, ar ôl hanner cyntaf siomedig iawn, roedd sicrhau pwynt yn allweddol i’r tîm heno os am barhau tu hwnt i gemau’r grŵp yn y gystadleuaeth.
Fe fydd carfan Robert Page yn dychwelyd i Stadiwm Ahmad Bin Ali ddydd Gwener i wynebu Iran – a gollodd o 6-2 yn erbyn Lloegr yn gynharach ddydd Llun.
Bydd Cymru’n cloi’r cymal grŵp yn erbyn Lloegr wythnos i ddydd Mawrth.