Mewn prynhawn dramatig ar ddiwrnod olaf y tymor, lle roedd cyfle i Gei Connah neu’r Seintiau Newydd ennill y gynghrair, llwyddodd tîm Andy Morrison i guro Pen-y-bont 0-2 ac ennill cynghrair y Cymru Premier am yr ail dymor yn olynol.
Sgoriodd George Horan o fewn y pum munud cyntaf cyn i Aeron Edwards selio’r fuddugoliaeth gyda pheniad wedi 75 munud o’r chwarae.
Fe enillodd Aeron Edwards ei 10fed Pencampwriaeth, y cyntaf yn hanes y gynghrair i ennill mwy na naw.
Bydd ffocws y pencampwyr y nawr yn troi at Gynghrair y Pencampwyr dros yr haf, gyda’r enwau yn cael eu tynnu allan o’r het ar gyfer gemau rhagbrofol y gystadleuaeth ar yr 8fed o Fehefin.