S4C

Navigation

Doedd dim syndod mawr yng newisiadau Robert Page wrth iddo gyhoeddi ei garfan 26-dyn ar gyfer Cwpan y Byd yn Tylorstown nos Fercher.

Yn wahanol iawn i Bencampwriaeth Ewrop UEFA yn 2021 pan gafodd Rubin Colwill ei gynnwys yng ngharfan Page er nad oedd wedi ennill yr un cap ar y pryd, roedd carfan 2022 yn debyg iawn i’r hyn oedd pawb wedi ei ddarogan.

Mae amddiffynnwr Sheffield United, Rhys Norrington-Davies, yn colli’r daith oherwydd anaf gyda Tom Lockyer, sydd heb chwarae dros ei wlad ers mis Medi 2021, yn elwa.

Bydd wyth aelod o’r garfan yn teithio i’w trydedd prif bencampwriaeth gyda Wayne Hennessey, Danny Ward, Chris Gunter, Ben Davies, Joe Allen, Aaron Ramsey, Gareth Bale a Jonathan Williams wedi bod yn rhan o garfanau Euro 2016 ac Euro 2020.

Mae Allen a Rubin Colwill wedi eu cynnwys er gwaethaf anafiadau diweddar. Dyw Allen heb chwarae ers anafu llinyn y gâr ym muddugoliaeth Abertawe dros Hull ar 17 Medi, tra bod Colwill wedi dod ymlaen fel eilydd yn erbyn Gwlad Pwyl ym mis Medi er treulio’r rhan fwyaf o’r tymor yn ystafell driniaeth Caerdydd.

Byddai cur pen mwyaf Page wedi dod wrth ddewis ei flaenwr olaf gyda Tyler Roberts a Rabbi Matondo yn chwarae rhan yng ngharfanau Cynghrair y Cenhedloedd diweddar.

“Roedd yn anodd dweud wrthyn nhw na fydden nhw yn mynd (i Qatar),” meddai Page wrth S4C nos Fercher. “Mae nhw wedi bod yn rhan o’r garfan ac mae ganddyn nhw lot i’w gynnig.”

“Dyw e ddim yn golygu na fydde nhw’n mynd i fod yn rhan o’n trefniadau byth eto, mae ‘na lot o gemau ym mis Mawrth, ond dwi’n deall y bydden nhw’n siomedig.”

Roedd y blaenwr Nathan Broadhead, sydd ar fenthyg yn Wigan, wedi ei alw i garfan Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Mehefin tra bod sawl un wedi galw am i gyn ymosodwr dan-21 Cymru, Ollie Cooper, gael ei gynnwys yn dilyn ei goliau diweddar dros Abertawe.

Ond mae Page wedi dewis ymosodwr Caerdydd, Mark Harris, ynghyd a Brennan Johnson, Kieffer Moore, Gareth Bale a Dan James.

Dim ond tri chwaraewr fydd yn mynd i dwrnament am y tro cyntaf. Bu rhaid i Lockyer dynnu yn ôl o garfan Cymru ar gyfer Euro 2020 tra bod Harris ac ymosodwr Nottingham Forest, Brennan Johnson, yn gwneud eu hymddangosiadau cyntaf.

Carfan Cymru: Wayne Hennessey (Nottingham Forest), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Sheffield United), Ben Cabango (Abertawe), Tom Lockyer (Luton Town), Joe Rodon (Rennes), Chris Mepham (Bournemouth), Ethan Ampadu (Spezia), Chris Gunter (AFC Wimbledon), Neco Williams (Nottingham Forest), Connor Roberts (Burnley), Sorba Thomas (Huddersfield Town), Joe Allen (Abertawe), Matthew Smith (MK Dons), Dylan Levitt (Dundee United), Harry Wilson (Fulham), Joe Morrell (Portsmouth), Jonathan Williams (Swindon Town), Aaron Ramsey (Nice), Rubin Colwill (Caerdydd), Gareth Bale (Los Angeles FC) Kieffer Moore (Bournemouth), Mark Harris (Caerdydd), Brennan Johnson (Nottingham Forest), Dan James (Fulham)

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?