Gêm gyfartal ar Goedlan y Parc i Gei Connah ac i’r Seintiau Newydd yn Belfast, ond canlyniadau siomedig i’r Bala a’r Drenewydd yng Nghyngres Europa.
Cei Connah 2-2 Alashkert – Rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr
Craig Curran yn agor y sgorio i Pencampwyr y Cymru Premier ond dwy gôl gan David Khurtsidze yn gweld y tîm o Armenia ar y blaen ar yr egwyl.
Llwyddodd y capten bytholwyrdd, George Horan sgorio i unioni’r sgôr gyda’r cymal cyntaf yn gorffen yn gyfartal.
Bydd Cei Connah yn chwarae’r ail gymal ar nos Fercher, Gorffennaf 14 yn Yerevan, Armenia.
‘Still in the game’ – Andy Morrison
Andy Morrison – ‘We’re in the game!’ 💪⚽
Sylwadau rheolwr @the_nomads wedi’r gêm gyfartal yn erbyn Alashkert o Armenia yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.
Cei Connah 2-2 Alashkert 🏴🇦🇲#UCL pic.twitter.com/XDzX9ilsJa
— ⚽ Sgorio (@sgorio) July 7, 2021
Y Bala 0-1 Larne – Rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Europa
David McDaid yn sgorio unig gôl y gêm ar Neuadd y Parc wrth i’r ymwelwyr o Ogledd Iwerddon ennill y cymal cyntaf.
Dywedodd cyn chwaraewr canol cae Cymru, David Edwards fod y tîm hefo llawer mwy i’w rhoi, gyda’r rheolwr, Colin Caton yn obeithiol o ganlyniad yn yr ail gymal.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ym Mharc Inver, Larne ar nos Iau Gorffennaf 15.
‘Much more to give as a team’ – David Edwards
‘So much more to give as a team’ – @_DaveEdwards @BalaTownFC 0-1 Larne #UECL pic.twitter.com/PnnF2Enp13
— ⚽ Sgorio (@sgorio) July 8, 2021
Dundalk 4-0 Y Drenewydd – Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa
Canlyniad siomedig i’r Drenewydd, bydd hi’n tipyn o her i dîm Chris Hughes os yw’r Robiniaid am gamu ymlaen i’r ail rownd ragbrofol.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ar Neuadd y Parc, Croesoswallt nos Fawrth Gorffennaf 13.
Glentoran 1-1 Y Seintiau Newydd – Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa
Gôl unigol hyfryd gan Leo Smith yn agor y sgorio i’r Seintiau ond i Robbie McDaid unioni’r sgôr i’r tîm o Belfast.
Bydd Y Seintiau yn gobeithio bydd mantais o gem gartref o’u plaid wythnos nesaf yn yr ail gymal ar nos Iau Gorffennaf 15.
Leo Smith v Glentoran 🔥 ⚽️
— ⚽ Sgorio (@sgorio) July 8, 2021