Mae Cymru wedi sicrhau gêm gartref yn y gemau ail gyfle ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd 2022 yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd.
Roedd Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn sŵn yn ystod y gic gyntaf wrth i dorf lawn ddod i wylio un o’r gemau pwysicaf i Gymru eto.
Ond gyda Gwlad Belg oedd y dechreuad gorau wrth iddynt sicrhau’r fantais gyda gôl gampus gan Kevin De Bruyne ar ffin y cwrt cosbi wedi 12 munud.
Er i’r ymwelwyr barhau i roi’r dynion mewn coch dan bwysau dwys, llwyddodd Kieffer Moore i fanteisio ar amddiffyn blêr i ddod a’r sgôr yn 1-1.
Yn yr ail hanner, Cymru oedd y tîm gwell wrth i’r ymosodwyr megis Moore, Aarons Ramsey a Dan James roi Gwlad Belg o dan bwysau tra arhosodd yr amddiffyn o dan arweiniad Joe Rodon a Ben Davies yn gadarn.
Llwyddodd Cymru i wrthsefyll ymdrechion hwyr yr ymwelwyr i ennill y gêm i sicrhau gêm gyfartal sy’n golygu bydd Cymru yn chwarae’i gemau ail gyfle o flaen cefnogaeth y Wal Goch.
Erthygl gan Newyddion S4C