S4C

Navigation

Mae Caernarfon wedi trechu Pen-y-bont 3-1 i hawlio lle yn Ewrop am y tro cyntaf.

Fe sgoriodd y Cofis dair gwaith yn yr hanner cyntaf o flaen torf o bron i 2,000 ar yr Oval a llwyddo i ddal ymlaen yn yr ail hanner.

Fe wnaeth Louis Lloyd roi’r Cofis ar y blaen ar ôl pas gan Darren Thomas ar ôl 19 munud.

Enillodd Louis Lloyd gic o’r smotyn pum munud yn ddiweddarach cyn i Zack Clarke ddyblus mantais Caernarfon.

Deg munud cyn diwedd yr hanner cyntaf fe wnaeth Sion Bradley sgorio’r trydydd dros ei glwb.

Gyda munudau yn weddill o amser ychwanegol yn yr ail hanner fe sgoriodd Ryan Reynolds gôl gysur dros Pen-y-bont.

Dywedodd hyfforddwr Caernarfon Richard Davies wrth Sgorio ei fod yn brofiad “unbelievable”.

“Mae’r hogiau wedi rhoi bob dim allan fan ‘na ac mae’n rhaid i chi jesd sbïo ar y scenes beth mae’n ei feddwl,” meddai.

Y cefndir

Chwaraeodd Caernarfon yn y gemau ail gyfle am y tro cyntaf ar ddiwedd tymor 2018/19 gan golli 3-2 ar yr Oval yn erbyn Met Caerdydd yn y rownd gynderfynol.

Aeth y Cofis gam ymhellach yn nhymor 2020/21, yn ennill yn Y Barri yn y rownd gynderfynol cyn colli 5-3 gartref yn erbyn Y Drenewydd yn y rownd derfynol.

Yna yn 2021/22, o’r diwedd fe enillodd Caernarfon y gemau ail gyfle drwy guro Met Caerdydd (1-0) ac yna’r Fflint (2-1 w.a.y) ar yr Oval.

Ond yn anffodus i’r Caneris, 2021/22 oedd yr unig dymor ble nad oedd enillwyr y gemau ail gyfle yn cyrraedd Ewrop (oherwydd safle Cymru ar restr detholion UEFA),

Mae’r Seintiau Newydd (1af), Cei Connah (2il) a’r Bala (3ydd) eisoes wedi sicrhau eu lle yn rowndiau rhagbrofol Ewrop ar gyfer tymor 2024/25.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Can't find what you're looking for?