Mae Sgorio wedi cyhoeddi’r gemau byw cyntaf fydd yn cael eu dangos yn y tymor pêl-droed newydd.
Bydd o leiaf 35 gêm bêl-droed domestig Cymru i’w gweld ar blatfformau S4C a Sgorio yn ystod y tymor 2022-23, o’r Cymru Premier JD, Cwpan Cymru JD, Cwpan Nathaniel MG a Chynghreiriau Adran Genero.
Bydd camerâu Sgorio ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru ar gyfer y gêm fyw cyntaf rhwng Pontypridd, a enillodd ddyrchafiad o Gynghrair y De JD y tymor diwethaf, a’r Fflint, ar nos Sadwrn 13 Awst. Bydd y gêm yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 5.45yh.
Ar nos Sadwrn 20 Awst, bydd y gêm rhwng Aberystwyth a Met Caerdydd i’w gweld yn fyw ar S4C (Cic gyntaf 5.45yh).
Yr wythnos ganlynol, bydd Sgorio yn dangos tair gêm yn fyw ar-lein mewn wythnos ar draws blatfformau digidol, yn cychwyn gyda’r Bala v Y Drenewydd ar nos Wener 26 Awst (CG 7.45yh), Pen-y-bont v Hwlffordd ar nos Fawrth 30 Awst (CG 7.45yh) a Chaernarfon v Airbus UK ar nos Wener 2 Medi (CG 7.45yh).
Dydd Sadwrn 10 Medi, bydd y gêm rhwng y pencampwyr, Y Seintiau Newydd, a Hwlffordd, yn cael ei ddangos ar-lein ar blatfformau digidol (CG 5.15yh).
Bydd y gemau ar-lein i’w gweld ar S4C Clic, ac ar dudalennau Facebook ac YouTube Sgorio.
Bydd uchafbwyntiau o bob gêm yn y Cymru Premier JD yn cael eu dangos ar raglenni uchafbwyntiau Sgorio bob dydd Llun, ac ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Sgorio.
Yn ogystal, bydd Sgorio yn cyhoeddi podlediad yn trafod y newyddion pêl-droed diweddaraf yng Nghymru, ac eitemau ar y gêm genedlaethol o lawr gwlad i gêm y merched.
Dilynwch gyfrifon @sgorio ar Facebook, Twitter, Instagram ac YouTube i weld y cynnwys diweddaraf.
Bydd rhaglenni Sgorio yn cael ei noddi gan Screwfix yn ystod y tymor 2022-23.
Gemau byw Sgorio – Awst a Medi 2022
Nos Sadwrn 13 Awst – Pontypridd v Y Fflint – CG 5.45yh
(S4C ac S4C Clic)Nos Sadwrn 20 Awst – Aberystwyth v Met Caerdydd – CG 5.45yh
(S4C ac S4C Clic)Nos Wener 26 Awst – Y Bala v Y Drenewydd – CG 7.45yh
(S4C Clic, YouTube a Facebook Sgorio)Nos Fawrth 30 Awst – Pen-y-bont v Hwlffordd – CG 7.45yh
(S4C Clic, YouTube a Facebook Sgorio)Nos Wener 2 Medi – Caernarfon v Airbus UK – CG 7.45yh
(S4C Clic, YouTube a Facebook Sgorio)Nos Sadwrn 10 Medi – Y Seintiau Newydd v Hwlffordd – CG 5.15yh
(S4C Clic, YouTube a Facebook Sgorio)