S4C

Navigation

Ar ôl dechrau gwych i’r ymgyrch, taith i Fwlgaria sy’n wynebu Cymru nos Fercher. Llwyddodd Cymru i drechu’r gwrthwynebwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd diolch i gôl hwyr Neco Williams ym mis Medi a bydd Ryan Giggs a’i dîm yn gobeithio am ganlyniad tebyg gyda Cymru ar frig eu grŵp ar ôl dechreuad di-guro i’w hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA.

 

Bydd Aaron Ramsey a Kieffer Moore yn methu’r daith i Soffia, gyda Gareth Bale hefyd allan o’r garfan – felly bydd gofyn i blaenwr Leeds, Tyler Roberts arwain yr ymosod i dîm Cymru.

Er yr anafiadau mae talent ifanc creadigol ar gael, gan gynnwys Dan James a Harry Wilson.

Dyw Cymru heb golli yn eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA gan guro’r Ffindir (0-1), Bwlgaria (1-0) a sicrhau gêm gyfartal 0-0 yn Nulyn yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ddydd Sul diwethaf.

Ond bydd gofyn i Gymru i befformio dipyn yn well na’r pefformiad dros y Sul, gyda tîm Ryan Giggs methu a chreu cyfleoedd clir yn erbyn y Gwyddelod.

Bwlgaria v Cymru, y cyfan yn fyw ar S4C nos Fercher am 7.25, gyda’r gic gyntaf am 7.45.

Ymunwch â Dylan Ebenezer ac Owain Tudur Jones, gyda Nic Parry a Malcolm Allen yn y pwynt sylwebu.

Ryan Giggs: ‘players will be given a chance and they have to take it’

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?