S4C

Navigation

Cynghrair y Cenhedloedd: Bwlgaria 0-1 Cymru

Jonny Williams yn sgorio ei gôl gyntaf dros ei wlad wrth i Gymru guro Bwlgaria 0-1 oddi-cartref yn Soffia. Mae Cymru yn parhau yn ddi-guro yn eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ac ar frig eu grŵp.

Gydag Aaron Ramsey, Gareth Bale, Kieffer Moore a Hal Robson-Kanu yn methu’r daith i Soffia, roedd gofyn i’r aelodau ifanc o’r garfan gamu i’r adwy.

Mewn hanner cyntaf siomedig cafodd Cymru digon o’r meddiant ond yn wastraffus gyda’u cyfleoedd o giciau gosod.

Roedd rhaid i un o selogion y garfan serennu er mwyn sicrhau’r triphwynt, gyda Jonny Williams – a enillodd ei gap cyntaf yn 2013 – yn rhwydo’r gôl fuddugol wedi 84 munud.

Gwaith da gan Neco Williams ar yr asgell dde i groesi i’r cwrt cosbi gyda Jonny Williams yn rhwydo ar y cynnig cyntaf i do y rhwyd.

Mae Ryan Giggs yn adeiladu tîm sydd sicr yn anodd eu curo. Dyw Cymru heb golli ers Mehefin 11 mewn gemau cystadleuol – record o naw gêm – gyda’r tîm heb ildio yn eu chwe gêm gystadleuol ddiwethaf.

Bydd Cymru yn croesawu Gweriniaeth Iwerddon (15/11) a’r Ffindir (18/11) i Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd, dyma gemau olaf tîm Ryan Giggs yn eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd 2020 gyda’r tîm yn gobeithio ennill dyrchafiad i Cynghrair A ac ennill lle yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022. Bydd y gemau yn fyw ar S4C.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?