Fe wnaeth tîm pêl-droed Cymru sicrhau buddugoliaeth hollbwysig yn erbyn Latfia oddi cartref yn Riga yn rowndiau rhagbrofol Euro 2024 nos Lun.
Aaron Ramsey a David Brooks oedd y ddau a wnaeth sgorio i Gymru er mwyn sicrhau buddugoliaeth o 2-0.
Roedd hi hefyd yn fuddugoliaeth arwyddocaol i Rob Page, oedd yn wynebu pwysau cynyddol cyn y gêm yn dilyn un fuddugoliaeth mewn 13 o gemau.
Gyda Chymru yn bedwerydd yng ngrŵp D, roedd angen canlyniad positif yn erbyn Latfia os oedd tîm Rob Page yn mynd i barhau â’r freuddwyd o gyrraedd Euro 2024 yn Yr Almaen.
Dim ond un newid oedd yna i’r tîm a gafodd gêm gyfartal yn erbyn De Corea nos Iau yng Nghaerdydd.
Dychwelodd y capten Aaron Ramsey i ganol cae tra fod chwaraewr Birmingham City, Jordan James, yn cadw ei le yn dilyn perfformiad arbennig nos Iau, gydag ymosodwr Ipswich Town, Nathan Broadhead, ar y fainc ar gyfer y gêm.
Daeth cyfle i Gymru fynd ar y blaen ar ôl 10 munud o chwarae wrth i Ben Davies benio’r bêl o gic gornel Harry Wilson ond fe aeth yn syth i gyfeiriad gôl-geidwad Latfia, Roberts Ozols.
Cymru oedd yn rhoi pwysau ar y bêl yn y munudau agoriadol ac fe ddaeth Harry Wilson yn agos at sgorio wrth ergydio o du allan i’r cwrt cosbi, ond roedd Ozols yn barod unwaith eto i arbed.
Wedi 27 munud o chwarae, enillodd Harry Wilson gic gosb i Gymru, gyda Ramsey yn sgorio yn Riga a Chymru ar y blaen yn haeddiannol.
Gôl rhif 21ain dros Gymru i Ramsey a’i 100fed gôl yn ei yrfa broffesiynol.
Roedd Cymru yn edrych mewn rheolaeth o’r gêm wrth i’r hanner cyntaf ddechrau dod i ben, gydag ymdrechion gan Neco Williams, Brennan Johnson ac Harry Wilson yn agos iawn ar ôl ei gilydd.
Ond fe greodd Latfia eu cyfle cyntaf ar ôl 41 munud, ac fe ddaethon nhw yn agos at ei gwneud hi’n gêm gyfartal, gyda’r tîm cartref yn gorffen yr hanner cyntaf yn gryf.
Daeth cyfle arall i Latfia yn fuan iawn wedyn hefyd gyda Roberts Uldrikis yn penio yn llydan a Chymru yn edrych yn llawer llai cyfforddus nag ar ddechrau’r gêm.
Ond parhau yn 1-0 oedd hi ar ddiwedd y 45 munud cyntaf.
EGWYL 🇱🇻 0-1 🏴⁰
Aaron Ramsey yn sgorio unig gôl y gêm o’r smotyn i roi Cymru ar y blaen yn Riga.#LATWAL | @S4Cpic.twitter.com/OswMftT8jr— Sgorio ⚽️ (@sgorio) September 11, 2023
Chwe munud wedi i’r ail hanner ddechrau, daeth David Brooks ymlaen fel eilydd gydag Aaron Ramsey yn gorfod gadael y cae, a fydd yn eithaf pryderus i gefnogwyr Caerdydd cyn y gêm ddarbi yn erbyn Abertawe ddydd Sadwrn.
Ychydig funudau wedyn, fe wnaeth Neco Williams a Brennan Johnson gydweithio ar yr asgell chwith gyda Johnson yn mynd ymlaen i ergydio ond gôl-geidwad Latfia yn llwyddo i arbed unwaith eto.
Fe gafodd chwaraewr Latfia, Janis Ikaunieks, gerdyn melyn yn dilyn tacl uchel ar Jordan James, ond yn ffodus, fe gododd yn ôl ar ei draed.
Wedi 72 munud o chwarae, derbyniodd Ethan Ampadu anaf i’w ben yn dilyn gwrthdrawiad gyda Eduards Emsis, gyda chwaraewr canol cae Leeds United yn gorfod cael triniaeth gan feddygon Cymru.
Ymgeisiodd Neco Williams i ddyblu mantais Cymru wrth i’r gêm nesáu at 80 munud o chwarae drwy ergydio o bell ond fe aeth y bêl yn syth i gyfeiriad gôl-geidwad Latfia.
Daeth cyfle arall i Gymru ddyblu eu mantais wedi 80 munud, gyda Johnson yn pasio i Williams sy’n ergydio at gôl-geidwad Latfia, cyn i Brooks ymgeisio gyda’r ail gyfle.
Daeth Latfia yn agos iawn at ei gwneud hi’n gêm gyfartal gydag ymgais Janis Ikaunieks yn taro’r rhwyd ochr a chefnogwyr Latfia yn dathlu wrth feddwl ei bod hi’n gôl.
Fe wnaeth David Brooks ddyblu mantais Cymru wedi chwe munud o amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm, gan alluogi Cymru i ymlacio ychydig gyda’r ychydig o amser oedd yn weddill.
Yn ffodus i Gymru, roedd goliau Aaron Ramsey a David Brooks yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth bwysig iawn i dîm Rob Page yn Riga nos Lun.
Erthygl gan Newyddion S4C