S4C

Navigation


Mae hi’n wythnos Cwpan FA Lloegr Emirates wrth i Bournemouth o’r Uwch Gynghrair groesawu Abertawe o’r Bencampwriaeth i Stadiwm Vitality yn y bedwaredd rownd.

Dim ond unwaith mae’r ddau dîm erioed wedi cyfarfod yng Nghwpan FA Lloegr, yn ôl ym mis Tachwedd 2000 pan ennillodd Bournemouth o 2-0.

Mae’r record benben yn mynd o blaid y tîm cartref gydag Abertawe heb fuddugoliaeth yn eu herbyn yn y 12 gêm diwethaf (Cyf 4, Colli 8).

Mae Bournemouth wedi cael y gorau o’r Elyrch yn barod y tymor hwn ar ôl eu curo yng Nghwpan y Gynghrair ddiwedd Awst gydag ymdrech amser ychwanegol Ryan Christie yn torri calonnau’r Elyrch.

Cyrrhaeddodd y ddau dîm ddim pellach na’r drydedd rownd y tymor diwethaf wrth i Bournemouth golli gartref yn erbyn Burnley ac Abertawe yn colli yn erbyn Bristol City ar ôl gorfodi ail gêm yn dilyn gêm gyfartal oddi cartref.

Rhediad y tymor hwn

Goroesodd tîm Andoni Iraola hanner cyntaf caled yn erbyn Queen’s Park Rangers yn nhrydedd rownd y gystadleuaeth y tymor hwn wrth ddod yn ôl o ddwy gôl i lawr i daro tair gôl yn yr ail hanner i sicrhau eu lle yn y bedwaredd rownd.

Cafodd Abertawe fuddugoliaeth ychydig yn fwy cyfforddus yn erbyn Morecambe o’r ail adran gyda Charlie Patino a Jerry Yates yn rhwydo goliau ail hanner i roi’r Elyrch yn yr het. Mae gan Jerry Yates 8 gôl yn ei 9 ymddangosiad diwethaf yng Nghwpan FA Lloegr Emirates (5 gôl, Creu 3), un i’w wylio Nos Iau.

Record cynghrair

Aeth Bournemouth ar rediad gwych o saith gêm heb golli yn ymestyn o Dachwedd 11eg cyn colli 3-1 yn erbyn Tottenham ar Nos Calan. Dim ond dwywaith maen nhw wedi chwarae ers y golled honno, gyda buddugoliaeth Cwpan FA Lloegr yn erbyn QPR ac yn fwy diweddar colled trwm gartref yn erbyn Lerpwl.

Mae tîm Luke Williams wedi chwarae pedair gêm ers troad y flwyddyn newydd, gan gael dechrau da wrth guro West Brom a Morecambe cyn cael gêm gyfartal gyda Birmingham City sydd mewn trafferthion tua’r gwaelodion a cholled gartref yn erbyn Southampton sydd yn drydydd yn y gynghrair.

 

Bydd Sgorio yn fyw o Stadiwm Vitality Nos Iau am 7.20 gyda’r gic gyntaf am 7.45.

Gwyliwch ar S4C, trwy ein sianel YouTube neu S4C Clic.

Meilyr Williams

Author Meilyr Williams

More posts by Meilyr Williams
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?