S4C

Navigation

Mae’r Seintiau Newydd a Chaernarfon wedi sicrhau eu lle yn ail rownd ragbrofol Ewrop, tra bod antur Ewropeaidd Cei Connah a’r Bala wedi dod i ben. 

Roedd gêm gyfartal 1-1 ym mhrif ddinas Montenegro nos Fawrth diwethaf yn ddigon i’r Seintiau Newydd selio eu lle yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn dilyn eu buddugoliaeth gartref o 3-0 yn y cymal cyntaf yn erbyn FK Dečić. 

Bydd pencampwyr Cymru, Y Seintiau Newydd yn herio pencampwyr Hwngari, Ferencváros gan anelu i gyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr am yr eildro yn eu hanes, ac am y tro cyntaf ers 2010. 

Cafwyd diweddglo dramatig ym mhob un o’r dair rownd arall gan glybiau Cymru, gan ddechrau gyda Caernarfon yng Ngogledd Iwerddon nos Fercher. 

Ar ôl ennill y cymal cyntaf o 2-0 yn erbyn Crusaders o Belfast, roedd Caernarfon yn edrych yn gyfforddus ar ôl i Paolo Mendes roi’r Cofis 3-0 ar y blaen dros y ddau gymal gyda dim ond 45 munud ar ôl i’w chwarae yn yr ail gymal. 

Ond brwydrodd Crusaders yn ôl yn yr ail hanner yn Seaview gan sgorio deirgwaith a mynd â’r gêm i giciau o’r smotyn, ac roedd hi’n ymddangos fel bod breuddwyd y Cofi Army ar fin dod i ben. 

Ond Richard Davies a’r Canerîs oedd yn dathlu yn y pen draw gyda Marc Williams yn sgorio’r gic o’r smotyn fuddugol i sicrhau mae Caernarfon fydd yn wynebu Legia Warszaw yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA. 

Yna nos Iau, roedd yna dorcalon i’r Bala a Chei Connah gyda’r ddau dîm yn ildio’n hwyr yn yr amser ychwanegol i ddod a’u hymgyrchoedd Ewropeaidd i ben. 

Ar ôl colli 2-1 yn y cymal cyntaf, roedd peniad capten Y Bala, Nathan Peate wedi sicrhau bod angen amser ychwanegol yn yr ail gymal yn erbyn Paide Linnameeskond o Estonia. 

Ond fe darodd yr Estoniaid gôl arbennig i ennill y rownd gyda dim ond eiliadau ar ôl i’w chwarae, a bechgyn Y Bala’n siomedig i golli 3-2 dros y ddau gymal. 

Bu Cei Connah yn hynod anlwcus hefyd, yn dal eu tir am 88 munud cyn i NK Bravo o Slofenia sgorio i fynd â’u gêm hwythau i amser ychwanegol. 

A gyda 116 o funudau ar y cloc, daeth yr ergyd drom i’r Nomadiaid gyda’r ymwelwyr yn rhwydo a sicrhau buddugoliaeth o 2-1 dros y ddau gymal. 

Felly’r Seintiau Newydd a Chaernarfon fydd yn hedfan y faner dros Gymru yn yr ail rownd, ac yn teithio i Hwngari a Gwlad Pwyl yr wythnos hon. 

 

 

 

Ferencváros (Hwngari) v Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth, 23 Gorffennaf – 19:00  

(Groupama Aréna, Budapest – Cymal Cyntaf Ail Rownd Ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr 2024/25) 

Yn dilyn eu buddugoliaeth o 4-1 dros ddau gymal yn erbyn pencampwyr Montenegro, FK Dečić yn y rownd ddiwethaf, mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau eu bod o fewn un buddugoliaeth o gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop. 

Pe bae’r Seintiau’n colli yn erbyn Ferencváros, byddai tîm Craig Harrison yn syrthio i drydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa, ac hyd yn oed pe bae nhw’n colli honno, yna byddai rownd arall i’w chwarae yng ngêm ail gyfle Cyngres UEFA. 

Felly mae’r Seintiau’n sicr o chwarae o leiaf chwe gêm arall yn Ewrop eleni, ond cyrraedd un o’r brif gystadlaethau yw’r nod yn dal i fod i garfan Croesoswallt. 

Ers 1996 mae’r Seintiau Newydd wedi chwarae 80 o gemau yn Ewrop gan ennill 18 o rheiny (23%), ac mewn 41 rownd Ewropeaidd mae’r clwb wedi camu ymlaen ar 10 achlysur (24%). 

Daeth eu rhediad gorau yn nhymor 2010/11 – er ennill dim ond un rownd y tymor hwnnw (yn erbyn Bohemians yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr), cyn colli yn erbyn Anderlecht, fe gafodd y Seintiau chwarae mewn gêm ail gyfle i gyrraedd Cynghrair Europa. 

Ond ar ôl colli 5-2 dros ddau gymal yn erbyn CSKA Sofia mae’r Seintiau’n parhau i freuddwydio am gael cyrraedd rownd y grwpiau. 

Ar ôl serennu’r tymor diwethaf gan ennill gwobr Esgid Aur y Cymru Premier JD, mae prif sgoriwr y llynedd, Brad Young wedi dechrau’r tymor ar dân unwaith eto gyda tair gôl i’r Seintiau yn erbyn FK Dečić yn y rownd ragbrofol gyntaf. 

Mae’r Seintiau felly wedi camu ymlaen i ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf ers 2019, i wynebu Ferencváros o Hwngari. 

Ferencváros o Budapest yw clwb mwyaf llwyddiannus holl hanes Hwngari gyda 35 pencampwriaeth i’w henw, gan ennill chwech o rheiny yn olynol ers 2018. 

Mae’r clwb yn llawn chwaraewyr rhyngwladol ac mae’r Hwngariaid yn ffefrynnau clir ar ôl cyrraedd rownd 16 olaf Cynghrair Europa y tymor diwethaf ble gollon nhw yn erbyn Bayer Leverkusen ar ôl gorffen ar frig y grŵp oedd yn cynnwys Trabzonspor, Monaco a Red Star Belgrade. 

Bydd y cymal cyntaf yn cael ei chynnal yn Groupama Aréna (Ferencváros Stadion), sef y stadiwm ble gollodd Cymru 1-0 yn erbyn Hwngari ym Mehefin 2019 yng ngemau rhagbrofol Euro 2020. 

Bydd enillwyr y rownd hon yn wynebu unai UE Santa Coloma (Andorra) neu FC Midtjylland (Denmarc) yn y drydedd rownd ragbrofol, tra bydd y collwyr yn syrthio i Gynghrair Europa i herio unai APOEL (Cyprus) neu FC Petrocub Hîncești (Moldofa). 

 

 

Legia Warszaw (Gwlad Pwyl) v Caernarfon | Nos Iau, 25 Gorffennaf – 19:45 

(Stadion Wojska Polskiego, Warszawa – Cymal Cyntaf Ail Rownd Ragbrofol Cyngres UEFA 2024/25) 

Ar ôl cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, mae’r freuddwyd yn mynd yn felysach i’r Cofis yn dilyn buddugoliaeth arbennig ar giciau o’r smotyn yn erbyn Crusaders o Ogledd Iwerddon. 

Er fod Caernarfon dair gôl ar y blaen ar yr egwyl yn yr ail gymal, fe frwydrodd Crusaders yn ôl ac fe orffennodd hi’n 3-3 dros y ddau gymal cyn i’r gêm fynd i giciau o’r smotyn. 

Yn rhyfeddol mae golwr ifanc Caernarfon, Stephen McMullan, sydd ar fenthyg o Fleetwood yn enedigol o Belfast, ac roedd hi’n noson gofiadwy i’r gŵr ifanc gan iddo arbed dwy gic o’r smotyn a sgorio un ei hun. 

Ond y chwaraewr profiadol, Marc Williams gymerodd y gic dyngedfennol i sicrhau’r fuddugoliaeth i Gaernarfon ac roedd y 400 o gefnogwyr oedd wedi teithio o Gaernarfon yn dathlu tan oriau mân y bore ym Melfast. 

Ond bydd dim cefnogwyr yn cael mentro i’r stadiwm yng Ngwlad Pwyl gan fod rhaid i’r gêm yn erbyn Legia Warszaw gael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd trafferthion yn y gorffennol gyda thorf y tîm cartref. 

Legia Warszaw yw clwb mwyaf llwyddiannus holl hanes Gwlad Pwyl, ac mae eu torf yn adnabyddus fel rhai angerddol a thanllyd. 

Mae’r clwb o brif ddinas Gwlad Pwyl wedi chwarae dros 250 o gemau’n Ewrop gan gyrraedd rownd y grwpiau ar saith achlysur ers 2011, a churo timau fel Aston Villa, Leicester City, Sporting Lisbon a Celtic yn ddiweddar. 

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ar nos Iau, 1 Awst gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu unai Brøndby IF (Denmarc) neur KF Llapi 1932 (Cosofo) yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres UEFA. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?