Dros y penwythnos bydd 32 o glybiau yn cystadlu yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru.
Bydd 14 o glybiau’r uwch gynghrair yn cymryd rhan, yn ogystal â 10 o dimau’r ail haen, dau o’r drydedd haen, pump o’r bedwaredd haen, a’r clwb isaf ar ôl yn y gystadleuaeth, sef Blaen-y-maes o’r bumed haen.
Nos Wener, 13 Tachwedd
Pen-y-bont (1) v Draconiaid Caerdydd (2)
Dreigiau Baglan (2) v Y Barri (1)
Y Seintiau Newydd (1) v Llansawel (1)
Cei Connah (1) v Mochdre (4)
Caernarfon (1) v Treffynnon (1)
Dydd Sadwrn, 14 Tachwedd
Bae Colwyn (1) v Aberystwyth (2)
Caerau Trelai (2) v Brickfield (2)
Hotspur Caergybi (2) v Blaen-y-Maes (5)
Hwlffordd (1) v Rhydaman (1)
Llangennech (4) v Dinas Casnewydd (2)
Llandudno (1) v Y Felinheli (3)
Met Caerdydd (1) v Dolgellau (3)
Rockspur (4) v Pontarddulais (4)
Trefelin (1) v Coedpoeth (4)
Y Drenewydd (2) v Caerffili (2)
Dydd Sul, 15 Tachwedd
Cambrian (1) v Bangor 1876 (2)
Bydd y cyffro’n cychwyn nos Wener pan fydd deiliaid Cwpan Cymru, Caernarfon yn herio Treffynnon gan geisio gyrru un arall o glybiau mawr y dwyrain allan o’r gystadleuaeth ar ôl curo’r Fflint yn y rownd flaenorol.
Mewn gornest arall rhwng dau o glybiau’r uwch gynghrair bydd Y Seintiau Newydd yn wynebu Llansawel yn Neuadd y Parc, gyda cewri Croesoswallt yn benderfynol o adennill y tlws ar ôl colli yn y rownd hon y tymor diwethaf.
Bydd Pen-y-bont a’r Barri yn wynebu gwrthwynebwyr o’r ail haen nos Wener, tra bydd Cei Connah yn ffefrynnau clir i guro Mochdre o’r bedwaredd haen.
Brynhawn Sadwrn, bydd Aberystwyth yn gobeithio creu sioc yn erbyn Bae Colwyn, tra bydd Rhydaman yn anelu i guro Hwlffordd am y tro cyntaf erioed.
Blaen-y-Maes o Gynghrair Abertawe yw’r clwb isaf ar ôl yn y gystadleuaeth, ac mi fyddan nhw’n gwneud y daith hir i Gaergybi.
Cododd Bangor y gwpan deirgwaith yn olynol rhwng 2008 a 2010, a bydd y clwb dan ei newydd-wedd yn wynebu her anodd yn erbyn Cambrian yn fyw ar S4C brynhawn Sul.




