S4C

Navigation

Mae’n ddechrau tymor newydd ac yn ddechrau cyfnod newydd cyffrous i’r Cymru Premier gyda’r gynghrair yn cael ei ehangu i 16 tîm yn dilyn 16 o flynyddoedd o dan y fformat blaenorol o 12 tîm. 

Cyn y newid diwethaf yn 2010, roedd Uwch Gynghrair Cymru wedi cael ei chynnal gyda niferoedd rhwng 17-21 o glybiau yn ystod y tymhorau cyntaf ar ôl ffurfio’r gynghrair yn 1992, ond hwn fydd y tymor cyntaf erioed gydag 16 o dimau. 

Er y newidiadau sylweddol, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi penderfynu cadw sawl elfen o’r fformat flaenorol, sy’n cynnwys hollti’r gynghrair, a chynnal gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor. 

O’r chwe clwb sydd wedi esgyn dros yr haf, mae’r tri o’r de yn paratoi am eu tymor cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair (Cambrian, Trefelin, Rhydaman), tra bod Llandudno, Airbus UK a Treffynnon yn dychwelyd o Gynghrair y Gogledd. 

 

Nos Wener, 31 Gorffennaf 

Bae Colwyn v Trefelin | Nos Wener – 19:45 

Mae Trefelin wedi esgyn i’r Cymru Premier am y tro cyntaf erioed ar ôl ennill pencampwriaeth Cynghrair y De 2025/26 o dan arweiniad y rheolwr, Andy Hill. 

Bydd y tîm o ardal Port Talbot yn gwneud y daith hir i Ffordd Llanelian ar gyfer eu gêm agoriadol yn yr uwch gynghrair. 

Ar ôl sichrau dyrchafiad yn ôl i’r haen uchaf yr haf diwethaf, Bae Colwyn oedd â thorf gorau’r gynghrair yn 2025/26 gyda 2,357 yn heidio i Ffordd Llanelian ar gyfer yr ornest yn erbyn Caernarfon ym mis Ebrill – sef y pumed dorf fwyaf erioed yn hanes y gynghrair. 

Roedd hi’n dymor calonogol i’r Gwylanod a orffennodd yn 6ed yn y tabl cyn colli yn erbyn Pen-y-bont ar giciau o’r smotyn yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle. 

Mae Michael Wilde wedi ychwanegu profiad i’w garfan dros yr haf drwy arwyddo llond llaw o chwaraewyr o Gei Connah (Declan Poole, Callum Bratley, Dan Roberts, Jack Kenny), yn ogystal â’r golwr Mark Halstead, a’r blaenwr Adam Davies. 

Bydd sawl wyneb cyfarwydd i’w weld yng ngharfan Trefelin y tymor hwn, yn cynnwys cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Shaun MacDonald, a’r asgellwyr, Kostya Georgievsky a Lewys Ware. 

Hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau glwb, a bydd Andy Hill yn gobeithio gallu efelychu campau Bae Colwyn drwy orffen yn yr hanner uchaf yn eu tymor cyntaf ar ôl esgyn i’r Cymru Premier. 

 

Llandudno v Y Fflint | Nos Wener – 19:45 

Wedi saith tymor yn yr ail haen bydd Llandudno yn dychwelyd i’r uwch gynghrair eleni ar ôl sicrhau pencampwriaeth Cynghrair y Gogledd 2025/26 o dan arweiniad y rheolwr ifanc, Jordan Hadaway. 

Yn 24 mlwydd oed, bydd Hadaway yn un o’r gwŷr ieuengaf erioed i reoli yn y Cymru Premier, ond ar ôl ennill 26 o’u 30 gêm gynghrair y tymor diwethaf bydd y llanc lleol yn barod am yr her yn yr haen uchaf. 

Esgynnodd Llandudno i’r uwch gynghrair am y tro cyntaf yn haf 2015 ac roedd hi’n dymor cyntaf cofiadwy i’r clwb o Sir Conwy wrth iddyn nhw orffen yn 3ydd a chamu i Ewrop gyda Marc Williams yn serennu i’w dref enedigol yn sgorio 16 o goliau cynghrair gan ennill gwobr ‘Chwaraewr y Tymor’. 

Ond wnaeth y llwyddiant ddim para’n hir ar Barc Maesdu gyda Llandudno yn gorffen yn 9fed y tymor canlynol, 10fed y tymor wedi hynny, cyn syrthio yn 2018/19 ar ôl gorffen yn 11eg. 

Saith mlynedd yn ddiweddarach ac mi fydd Llandudno yn croesawu’r Fflint ar noson agoriadol y tymor newydd – dau glwb sydd wedi erioed wedi cyfarfod yn y Cymru Premier o’r blaen. 

Gorffennodd Y Fflint yn 10fed y tymor diwethaf gan osgoi’r cwymp o drwch blewyn, ac er i’r Sidanwyr gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 72 o flynyddoedd roedd hi’n dymor digon siomedig yn dilyn y golled o 3-0 yn erbyn Caernarfon yn y ffeinal. 

Dyw’r clybiau heb gyfarfod ers tymor 2023/24 yng Nghynghrair y Gogledd pan enillodd Y Fflint yn gyfforddus o 5-1 yn y ddwy ornest. 

 

Llansawel v Rhydaman | Nos Wener – 19:45 

Mae Rhydaman wedi sicrhau eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf erioed ar ôl gorffen yn 3ydd yng Nghynghrair y De 2025/26. 

Mae rheolwr Rhydaman, Wyn Thomas, yn hen gyfarwydd â’r gynghrair ar ôl chware dros 500 o gemau yn y Cymru Premier gan ennill y bencampwriaeth gyda Llanelli yn 2007/08, ac mi fydd ei brofiad yn allweddol eleni. 

Gorffennodd Llansawel yn 8fed y tymor diwethaf, dau safle’n uwch na’r tymor blaenorol, ac mi fydd Andy Dyer a’i garfan yn gobeithio parhau i ddringo ac adeiladu y tymor hwn. 

Mae Llansawel wedi ennill saith o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Rhydaman, yn cynnwys yr ornest fwyaf diweddar yn Ebrill 2024 pan sgoriodd Luke Bowen bedair gwaith ir Cochion i sicrhau dyrchafiad i’r uwch gynghrair (Lls 4-0 Aman). 

Mae Luke Bowen wedi dychwelyd i Lansawel eleni yn dilyn tymor gyda Trefelin ble enillodd wobr yr Esgid Aur ar ôl sgorio 21 o goliau yng Nghynghrair y De. 

 

Y Barri v Cambrian | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein) 

Mae Cambrian yn un arall o’r newydd-ddyfodiaid sy’n paratoi am eu tymor cyntaf erioed yn y Cymru Premier.  

Gorffennodd Cambrian yn ail yng Nghynghrair y De 2025/26 gan gadarnhau y bydd clwb o’r Rhondda yn chwarae yn yr uwch gynghrair am y tro cyntaf ers Ton Pentre yn 1996/97. 

Roedd hi’n dymor rhagorol i’r Barri a orffennodd yn eu safle uchaf ers saith mlynedd (3ydd), a chodi Cwpan y Cynghrair am y tro cyntaf ers chwarter canrif, ond mae hi wedi bod yn haf o newidiadau mawr i’r Dreigiau sydd wedi colli eu dau brif sgoriwr. 

Sgoriodd Ieuan Owen ac Ollie Hulbert 21 o goliau cynghrair rhyngddynt y tymor diwethaf, ond mae’r blaenwyr ifanc bellach wedi gadael gydag Owen yn ymuno â Kilmarnock, a Hulbert yn arwyddo i Weston-Super-Mare. 

Mae dau seren arall wedi ffarwelio â Pharc Jenner hefyd, yn cynnwys prif grêwr Y Barri y tymor diwethaf, Robbie Willmott, a’r amddiffynnwr cadarn Ben Margetson a gyfrannodd at 11 o goliau hefyd (sgorio 6, creu 5 yn 2025/26). 

Bydd Cambrian ar y llaw arall wrth eu boddau bod eu prif sgoriwr, Liam Eason wedi penderfynu aros gyda’r clwb ar gyfer y tymor newydd. 

Fe wnaeth y clybiau gyfarfod yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG y tymor diwethaf, gyda’r Barri’n ennill o 0-3 yn Stadiwm Grŵp M&P. 

 

Dydd Sadwrn, 1 Awst 

Hwlffordd v Airbus UK Brychdyn | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Airbus UK yn dychwelyd i’r Cymru Premier am y pedwerydd tro ar ôl gorffen yn ail yng Nghynghrair y Gogledd 2025/26. 

Bu dau gyfnod diwethaf Airbus yn yr uwch gynghrair yn rhai siomedig tu hwnt gyda’r clwb yn syrthio’n syth yn ôl i’r ail haen ar ôl gorffen ar waelod y tabl (2019/20 a 2022/23). 

Bydd y rheolwr Mark Allen yn anelu am berfformiad gwell gan ei garfan y tro hwn, gan ddechrau gyda thaith i Sir Benfro i wynebu Hwlffordd. 

Roedd hi’n ymgyrch gymysglyd i Hwlffordd y tymor diwethaf gyda’r clwb yn gorffen yn 7fed ar ôl llwyddo i orffen yn 3ydd a chyrraedd Ewrop y flwyddyn flaenorol. 

Daeth y tymor i ben ar nodyn rhwystredog wrth i’r Adar Gleision golli o 2-0 yn erbyn Pen-y-bont yn rownd derfynol y gemau ail gyfle. 

Ond mae hwn yn gyfnod cyffrous i Hwlffordd sydd wedi dechrau system hybrid ar gyfer y tymor newydd gyda cytundebau llawn amser ar gael i’w chwaraewyr ifanc. 

Mae Hwlffordd wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn bechgyn Brychdyn ond hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers Ebrill 2023. 

 

Met Caerdydd v Treffynnon | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl gorffen yn drydydd yng Nghynghrair y Gogledd 2025/26 mae Treffynnon am ddychwelyd i’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers 28 o flynyddoedd. 

Roedd Treffynnon yn un o’r timau gwreiddiol a chwaraeodd yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru yn 1992/93 cyn syrthio bum mlynedd yn ddiweddarach. 

Daeth Treffynnon yn ôl i fyny ar gyfer tymor 1998/99 gan orffen ar waelod y tabl a disgyn yn ôl i’r ail haen, ac felly dyma fydd eu trydydd cyfnod ymysg yr elît. 

Mae John Haseldin wedi bod wrth y llyw yn Nhreffynnon ers 14 mlynedd erbyn hyn, ac fe wnaeth y clwb ennill pencampwriaeth Cynghrair y Gogledd yn 2023/24 ond methu a sicrhau dyrchafiad oherwydd diffyg trwydded domestig. 

Felly, wedi hir ymaros, mi fydd Haseldin yn cael arwain ei glwb i’r uwch gynghrair eleni gan ddechrau gyda thrip oddi cartref i’r brif ddinas. 

Roedd hi’n dymor anodd i Met Caerdydd wrth i’r myfyrwyr orffen yn 9fed, sef eu safle isaf ers eu dyrchafiad yn 2016. 

Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb fydd yn benderfynol am gael dechrau cadarnhaol i’r tymor. 

 

Dydd Sul, 2 Awst  

Cei Connah v Caernarfon | Dydd Sul – 14:30 

Dau dîm sydd heb gael fawr o orffwys dros yr haf yw Cei Connah a Chaernarfon a fuodd yn cystadlu yn rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA ym mis Gorffennaf. 

Gorffennodd Cei Connah yn ail yn nhymor 2025/26, ac fe lwyddodd Caernarfon i ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Ond roedd y canlyniadau’n Ewrop yn siomedig iawn gyda Caernarfon yn colli o 10-0 dros ddau gymal yn erbyn Levadia Tallinn, a Cei Connah yn colli 3-2 dros ddau gymal yn erbyn Ballkani o Cosofo. 

Er y colledion, bydd y ddau glwb yn ysu am gyfle arall i gyrraedd Ewrop, gan anelu i wthio’r Seintiau Newydd am y bencampwriaeth y tymor hwn. 

Mae hi wedi bod yn haf o newidiadau mawr yng Nghei Connah gyda 15 chwaraewr yn gadael wrth i John Disney barhau i osod stamp ei hun ar y garfan. 

Y golled fwyaf i Cei Connah o bosib yw Rhys Hughes, sydd wedi ymuno â’r Seintiau Newydd ar ôl sgorio 30 o goliau cynghrair mewn dau dymor i Cei Connah (+ creu 16) gan ennill gwobr Chwaraewr y Tymor yn 2024/25. 

Mae Noah Edwards wedi gadael y Nomadiaid i ail-ymuno â Chaernarfon, ac mae Ben Nash a Chris Marriott hefyd wedi gwneud y symudiad i’r Oval. 

Fe wnaeth y clybiau gyfarfod bedair gwaith y tymor diwethaf ac roedd y record benben yn hafal gyda’r ddau dîm yn ennill unwaith, colli unwaith a chael dwy gêm gyfartal. 

 

Pen-y-bont v Y Seintiau Newydd | Dydd Sul – 14:30 

Gyda dim ond un buddugoliaeth (mewn 90 munud) yn eu 15 gêm gystadleuol ddiwethaf, bydd Pen-y-bont yn benderfynol o ddechrau’r tymor newydd ar nodyn fwy cadarnhaol. 

Aeth Pen-y-bont ar rediad echrydus ar ddiwedd y tymor diwethaf cyn curo Hwlffordd yn rownd derfynol y gemau ail gyfle a sicrhau eu lle’n Ewrop. 

Ond methiant oedd yr ymgyrch Ewropeaidd, wrth i dîm Rhys Griffiths golli yn erbyn Santa Coloma o Andorra am yr eildro mewn tair blynedd. 

Ar ôl ennill pencampwriaeth y Cymru Premier JD am y 18fed tro yn eu hanes, ac am y pumed tymor yn olynol, bydd cewri Croesoswallt yn ffefrynnau clir i godi’r tlws unwaith eto’r tymor yma. 

Enillodd Y Seintiau Newydd eu pedair gornest yn erbyn Pen-y-bont y tymor diwethaf gan sgorio cyfanswm o 16 o goliau (4 gôl y gem). 

Fe gafodd blaenwr y Seintiau, Jordan Williams dymor arbennig gan gipio hatric o wobrwyon, sef Chwaraewr y Tymor, Gôl y Tymor a’r Esgid Aur – a daeth pump o’i 26 gôl gynghrair yn erbyn Pen-y-bont. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?