S4C

Navigation

Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi serennu dros yr wythnos.

 

Ashley Morris – Pen-y-bont

Pen-y-bont yn dringo i’r bedwerydd safle yn y gynghrair ar ôl sicrhau pedair pwynt o’u ddwy gêm ddiwethaf, gêm gyfartal 0-0 ddydd Sadwrn yn erbyn Cei Connah a buddugoliaeth 1-0 nos Fawrth dros Y Barri.

Cafodd golwr Pen-y-bont wythnos ddylanwadol – arbed peniad Curran yn erbyn Cei Connah i gadw’r gêm yn ddi-sgôr a sicrhau bod tîm Rhys Griffiths yn casglu’r triphwynt gydag arbediad hwyr yn erbyn Y Barri.

Mae’r golwr wedi cadw naw llechen lân y tymor hwn, gan gadw pedair yn olynol ers i’r tymor ail ddechrau.

 

Corey Shephard – Hwlffordd

Buddugoliaeth gynta’r Hwlffordd dros Y Seintiau Newydd ers 2004 oflaen camerau Sgorio ddydd Sadwrn, gyda Shephard yn serennu wrth sgorio’r gôl gynta’ ac yn rhan o’r chwarae ar gyfer y gôl fuddugol.

 

Lyndsey Davies – Y Fenni

Llwyddodd Lyndsey Davies ennill cic o’r smotyn a sgorio’r gôl wrth i merched Y Fenni guro Caerdydd 0-4.

Mae’r Fenni yn y trydydd safle yng nghynghrair y merched – dim ond triphwynt o’r brig gyda gêm wrth gefn.

 

Tyrone Ofori – Y Drenewydd

Mae’r ymosodwr wedi sgorio pedair gôl mewn pedair gêm ers i’r gynghrair ail ddechrau, gyda’r Drenewydd yn ennill tair o’r gemau.

Sgoriodd ddwy gôl hyfryd ddydd Sadwrn, foli nerthol a peniad wrth i’r Robiniaid guro Met Caerdydd 4-1.

 

Michael Wilde – Cei Connah

Y Blaenwr yn rhan o’r goliau eto i’r pencampwyr wrth i Gei Connah guro’r Bala 1-3 nos Fawrth.

Llwyddodd Wilde i greu dwy o’r goliau gyda’i ben ar Faes Tegid yn y gêm fyw – ei allu yn yr awyr yn allweddol i chwarae tîm Morrison.

Mae Michael Wilde wedi bod yn rhan o 36% o goliau Cei Connah y tymor hwn, gan greu pedair a sgorio 11 a dim ond un gôl o’i 200fed yn yr Uwch Gynghrair.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?