Trwy’r wythnos bydd Sgorio yn cynnal pôl piniwn ar eu safle Trydar, @Sgorio er mwyn gweld pwy yw’r 5 chwaraewr sydd wedi sefyll allan i gefnogwyr y Cymru Premier y tymor hwn.
Mae dewis o dri ym mhob safle sef y golwyr, amddiffynwyr, canol cae, asgellwyr a’r ymosodwyr, gyda’r rhestr fer i bob safle fel â ganlyn:
Golwyr
Paul Harrison (YSN) – 10 llechen lân mewn 17 gêm. ildio 0.6 gôl y gêm.
Ashley Morris (PEN) – 5 llechen lân mewn 14 gêm. Ildio dim ond 4 gôl mewn 9 gêm yn erbyn y clybiau o dan y tri uchaf.
Josh Tibbetts (CFON) – 2 llechen lân mewn 15 gêm. Seren y Gêm yn erbyn Derwyddon Cefn a’r Drenewydd yn fyw ar Sgorio.
Amddiffynwyr
Priestley Farquharson (CEI) – 3 gôl a 5 llechen lân y tymor hwn.
Nathan Peate (BALA) – 3 gôl, creu 1 a 2 lechen lân y tymor hwn.
Ryan Astles (YSN) – 1 gôl, creu 3 a 10 llechen lân y tymor hwn.
Canol cae
Aeron Edwards (CEI) – 4 gôl a chreu 4 yn ei dymor cyntaf gyda Cei Connah.
Kane Owen (PEN) – 1 gôl a chreu 3 yn ei rôl newydd fel capten yng nghanol cae.
Leo Smith (YSN) – 1 gôl a chreu 5 ar ôl sgorio 2 gôl yn Ewrop yn yr haf.
Asgellwyr
Will Evans (BALA) – 10 gôl, creu 7. Cydradd uchaf yn y gynghrair o ran cyfraniad at gôl (goliau + assist).
Danny Davies (CEI) – 2 gôl, creu 8. Prif grêwr goliau’r gynghrair.
Jack Wilson (HWL) – 8 gôl a chreu 5 yn ei dymor cyntaf yn yr uwch gynghrair.
Ymosodwyr
Greg Draper (YSN) – 13 gôl, creu 4. Sgorio gôl pob 64 munud.
Michael Wilde (CEI) – 9 gôl, creu 1. Wedi sgorio 26% o goliau Cei Connah y tymor hwn.
Chris Venables (BALA) – 15 gôl, creu 2. Prif sgoriwr y gynghrair.