Sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos
Oliver Byrne – Cei Connah
Arbediadau arbennig gan un o golwyr gorau’r gynghrair yn helpu’r Pencampwyr ennill ar Neuad y Parc am y tro cyntaf ers 1995.
Llwyddodd Byrne i arbed cic o’r smotyn Greg Draper ac ergyd Louis Robles yn yr ail hanner.gadw Cei Connah ar y blaen.
Mae’r golwr wedi serennu ers ennill ei le rhwng y pyst yn nhîm Andy Morrison, gyda Byrne yn cadw 7 llechen lân mewn 17 gêm, gan ildio 11 gôl.
Lassana Mendes – Y Bala
Ergyd nerthol Mendes i do’r rhwyd yn sicrhau’r triphwynt i’r Bala dros Y Barri, gyda’r Bala yn cryfhau eu gafael ar y 3ydd safle.
Bydd Colin Caton yn ffyddiog o bêl-droed Ewropeaidd y tymor nesaf gyda dim ond pum gêm yn weddill o’r tymor a bwlch o naw pwynt rhwng Y Bala yn 3ydd a’r Pen-y-bont yn 4ydd safle.
Jordan Evans – Y Drenewydd
Mae’r cefnwr chwith wedi bod ar dân dros yr wythnosau diwethaf gan sgorio naw gôl mewn deg ymddangosiad.
Sgoriodd ddwywaith yn y fuddugoliaeth o 5-0 dros Derwyddon Cefn, y gyntaf yn gic rydd fendigedig o bell a’r ail yn ergyd nerthol o du fewn i’r cwrt cosbi yn curo Michael Jones, golwr Derwyddon Cefn.
Courteney Thomas – Port Talbot
Sgoriodd Thomas ddwywaith wrth i Port Talbot guro Cascade 6-0 dros y Sul.
Dyma goliau rhif pump a chwech o’r tymor i Thomas wrth i Port Talbot ddringo i’r 5ed safle yn Uwch Gynghrair y Merched.
Michael Wilde – Cei Connah
Sgoriodd Michael Wilde ei hat-tric cyntaf ers 2018 wrth i Gei Connah guro’u gelynion, Y Seintiau Newydd 1-4 ar Neuadd y Parc.
Mae’r ymosodwr wedi bod yn allweddol i’r Pencampwyr y tymor yma gan sgorio 18 gôl a chreu 4 – gan gyfrannu at 36% o goliau’r Nomadiaid y tymor hwn.
Dyma fuddugoliaeth fawr yn y ras am y Bencampwriaeth, gyda’r Nomadiaid yn camu triphwynt yn glir ar y brig.