Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos
Connor Roberts – Aberystwyth
Aberystwyth yn curo’r Drenewydd 1-0 ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn wrth i Harry Franklin sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb.
Er hyn, golwr y Gwyrdd a Du, Connor Roberts sy’n hawlio ei le yn nhîm 5-y-Penwythnos gan arbed cic o’r smotyn hwyr i sicrhau’r triphwynt.
Ers i’r tymor ail ddechrau mae Aberystwyth wedi dringo o waelod y tabl i’r 9fed safle, gan ennill dwy gêm yn olynol gartref.
Paulo Mendes – Caernarfon
Cyn yr ornest ar Faes Tegid ddydd Sadwrn doedd y Cofis heb guro’r Bala yn eu pum gêm flaenorol – ond llwyddodd tîm Huw Griffiths i ennill 1-2 a chodi i’r 6ed safle.
Crëodd Paulo Mendes y gôl agoriadol i’r Cofis – rhediad cryf o ganol cae i fwydo Mike Hayes, gyda chyn flaenwr Y Bala yn ergydio i’r postyn pellaf heibio Alex Ramsay.
Fe sgoriodd Mendes y gôl fuddugol gyda 20 munud yn weddill, y bêl yn glanio wrth ei draed yn y cwrt chwech a’r chwaraewr o Bortiwgal yn rhwydo i’w gwneud hi’n 1-2 i Gaernarfon.
Callum Bratley – Y Fflint
Fe lwyddodd Y Fflint i ennill eu gêm gyntaf ers i’r tymor ail ddechrau, gyda Callum Bratley yn sgorio’r ail wrth i dîm Neil Gibson guro Pen-y-bont 1-2.
Bydd tîm Neil Gibson yn brwydro am bwyntiau dros yr wythnosau nesaf gyda’r Fflint yn eistedd yn safleoedd y cwymp.
Jasmine Simpson – Merched Caerdydd.
Sgoriodd Simpson ddwywaith a chreu dwy wrth i Merched Caerdydd guro Port Talbot 1-5 yn Stadiwm Ffordd Victoria.
Llwyddodd y blaenwr i godi’r bêl dros y golwr o du allan i’r cwrt cosbi ddwywaith – goliau tebyg iawn i’w gilydd!
Fe gododd Caerdydd i’r 5ed safle yng Nghynghrair y Merched ar ôl y fuddugoliaeth, eu trydydd o’r tymor.
Michael Wilde – Cei Connah
Sgoriodd y blaenwr ei 200fed gôl yn y Cymru Premier wrth i Gei Connah guro’r Hwlffordd 2-0.
Mae’r Nomadiaid wedi agor bwlch ar y brig i chwe phwynt dros Y Seintiau Newydd, er bod Y Seintiau hefo gêm wrth gefn.
Erbyn hyn mae Michael Wilde wedi sgorio 12 gôl gynghrair y tymor hwn gan greu pedair – y blaenwr yn rhan o 37% o goliau Cei Connah y tymor hwn.