S4C

Navigation

Sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos

Josh Tibbetts – Caernarfon

Mewn amgylchiadau anodd ar yr Oval nos Wener, llwyddodd Josh Tibbetts i serennu rhwng y pyst i’r tîm cartref yn y gêm gyfartal 1-1 gyda’r Drenewydd.

Roedd y golwr yn brysur drwy’r ail hanner, gydag amryw o arbediadau safonol i nadu Jordan Evans a Jamie Breese.

Mae Caernarfon ar rediad da gan gasglu 10 pwynt o’r 12 diwethaf gan ddringo i’r 5ed safle.

 

Alex Jones – Y Fflint

Capten dros-dro wedi gwaharddiad Richie Foulkes yn arwain drwy esiampl gan ennill seren y gêm a chreu’r gôl agoriadol yn y fuddugoliaeth 3-0 dros Aberystwyth ar Gae-y-Castell.

Y fuddugoliaeth yn codi’r Fflint o waelod y tabl i’r 9fed safle.

 

Aron Williams – Cei Connah

Sgoriodd Aron Williams ei gôl gyntaf yn y JD Cymru Premier wrth i Gei Connah ennill eu seithfed gêm yn olynol.

Sgoriodd Williams y drydedd yn y fuddugoliaeth 3-1 dros Met Caerdydd wrth i dîm Andy Morrison gadw’r pwysau ar Y Seintiau Newydd ar frig y gynghrair, gyda’r Nomadiaid driphwynt tu ôl i’r Seintiau Newydd gyda gêm wrthgefn.

 

Kayne McLaggon – Y Barri

Ar ôl colli dwy yn olynol, llwyddodd Y Barri i guro Derwyddon Cefn 4-1 dydd Sadwrn, gan ddringo nôl i’r pedwerydd safle.

Llwyddodd Kayne McLaggon i sgorio ddwywaith yn y fuddugoliaeth, y gyntaf yn foli hyfryd o groesiad Evan Press ar y dde, a’r ail yn ergyd nerthol yn y cwrt cosbi i rwydo ei 8fed o’r tymor.

 

Rob Hughes – Y Fflint

Dechrau perffaith i Rob Hughes o dan reolaeth Neil Gibson yn y Fflint, death ymlaen gydag ugain munud yn weddill ac yn darganfod y rhwyd ddwywaith.

Enillodd cic o’r smotyn, a’i rwydo wedi 85 munud o’r chwarae a sgoriodd gôl hyfryd yn hwyr i mewn i amser roedd wedi cael ei ganiatáu am anafiadau gan sgorio’r drydedd mewn buddugoliaeth 3-0 dros Aberystwyth.

Dyma oedd ei goliau gyntaf yn yr uwch gynghrair ers rhwydo i Gei Connah hefyd yn erbyn Aberystwyth ym mis Ionawr 2019.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?