Sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos
Oliver Byrne – Cei Connah
Un o sêr y Nomadiaid wrth i Gei Connah ddringo’n gyfartal ar bwyntiau gyda’r Seintiau Newydd wedi’r fuddugoliaeth o 2-0 dros y Seintiau yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Sadwrn.
Perfformiad arwrol gan golwr Cei Connah yn yr hanner cyntaf i gadw’r gêm yn ddi-sgôr – gan atal cyfleoedd Dean Ebbe, Leo Smith a Louis Robles.
Dyma ail lechen lan Byrne mewn pum gêm, gan ildio dim ond tair yn y cyfnod yma.
Charley Edge – Derwyddon Cefn
Llwyddodd Derwyddon Cefn i ennill eu gêm gyntaf gartref ar Y Graig ddydd Sadwrn mewn buddugoliaeth 4-1 dros Hwlffordd.
Roedd Charlie Edge yn allweddol i’r fuddugoliaeth gan greu’r ail i’r Derwyddon gyda chroesiad i lwybr Christoph Aziamale, cyn sgorio’r drydedd – ei gôl gyntaf o’r tymor.
Dyma ail fuddugoliaeth Derwyddon Cefn o’r tymor wrth i dîm Bruno Lopes ddringo o waelod y tabl ac o fewn un pwynt o Aberystwyth a’r Drenewydd yn y 10fed a’r 9fed safle.
Darren Thomas – Caernarfon
Ar ôl rhediad o saith gêm heb ennill, mae’r Cofis wedi ennill dwy yn olynol gan ddringo i’r 6ed safle.
Roedd Thomas yn rhan allweddol o’r fuddugoliaeth 2-0 dros Y Barri ddydd Sadwrn gan chwarae rhan yn y ddwy gôl.
Ei gic rydd yn canfod Gareth Edwards i greu’r gôl agoriadol i Jack Kenny sgorio ei gôl gyntaf dros Gaernarfon, a’r ail – croesiad Darren Thomas yn cwrdd â Sam Jones mewn lle yn y cwrt i sgorio’r gôl fuddugol.
Chris Venables – Y Bala
Sgoriodd yr ymosodwr profiadol ddwy yn y fuddugoliaeth 4-1 dros Met Caerdydd ar Faes Tegid ddydd Sadwrn, gan godi ei gyfanswm goliau i 15 am y tymor.
Mae’r Bala yn parhau i frwydro ger y brig, gyda thîm Colin Caton dim ond triphwynt tu ôl i’r Seintiau Newydd a Chei Connah.
Josh Bull – Cambrian a Clydach
Cambrian a Clydach yn camu ymlaen i ail rownd Cwpan Nathaniel MG ar ôl curo Port Talbot ar giciau o’r smotyn.
Fe sgoriodd Bull gôl hyfryd yn hwyr yn amser y roedd wedi ei ganiatáu am anafiadau i unioni’r sgôr, a’r ymosodwr sgoriodd y gic o’r smotyn buddugol i yrru’r tîm o Gwm Clydach ymlaen i’r rownd nesaf.