Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.
John Danby – Y Fflint
Yn anlwcus i ildio ddydd Sadwrn, cafodd y golwr profiadol gêm dda gan atal Eliot Evans rhag sgorio ddwywaith gydag arbediadau pwysig.
Jacob Wise – Derwyddon Cefn
Un o goliau gorau’r tymor yn achub pwynt i Derwyddon Cefn oddi cartref ym Mhen-y-bont ddydd Sul.
Foli hyfryd o du allan i’r cwrt cosbi yn curo Ashley Morris, golwr Pen-y-bont, wrth i’r amddiffynnwr sgorio ei gôl gyntaf dros y Derwyddon.
Chloe Chivers – Abertawe
Am gôl i sicrhau’r triphwynt i Abertawe dros Met Caerdydd ddydd Sul.
Ergyd nerthol o bell yn curo’r golwr mewn buddugoliaeth 1-0.
Mae Abertawe yn parhau â’u record 100% gan guro eu pedair gêm y tymor hwn.
Jack Wilson – Hwlffordd
Sgoriodd Wilson ddwy a chreu un yn y fuddugoliaeth 1-4 dros Gaernarfon ar Yr Oval ddydd Sadwrn.
Mae’r asgellwr ifanc yn profi ei hun fel un o sêr y tymor gan sgorio chwe gôl a chreu pump wrth i Hwlffordd ddringo’r tabl i’r chweched safle.
Will Evans – Y Bala
Am dymor mae’n blaenwr yn cael ers ymuno â’r Bala o Met Caerdydd.
Sgoriodd ddwy yn y fuddugoliaeth 3-1 dros Y Drenewydd nos Wener, gyda’r Bala yn brwydro tua’r brig.
Mae Evans wedi bod yn rhan o 14 gôl Y Bala y tymor hwn – sgorio naw a chreu pump.