Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.
Dave Jones – Y Drenewydd
Dim ond yr ail bwynt i’r Drenewydd gasglu oddi cartref y tymor hwn wrth i dîm Chris Hughes sicrhau gêm gyfartal 0-0 gyda’r Barri ar Barc Jenner.
Dyma lechen lân cynta’r tîm, gyda Dave Jones yn atal Kayne McLaggon gydag arbediad isel gyda’i draed i gadw’r gêm yn ddi-sgôr.
Declan Poole – Cei Connah
Yr asgellwr yn creu’r ddwy gôl wrth i dîm Andy Morrison guro Derwyddon Cefn 2-1 nos Wener.
Dyw Cei Connah heb golli gêm gynghrair gartref ers mis Mawrth 2019 – 20 gêm.
Annalise Lewis – Cascade
Gôl fendigedig gan Lewis, cic rydd o bellter yn twyllo golwr Y Fenni wrth i Cascade unioni’r sgôr.
Llwyddodd Cascade i guro’r Fenni 1-2 yng Nghwpan Cynghrair Merched Cymru gan gamu ymlaen i rownd nesa’r gystadleuaeth.
Alex Jones – Y Fflint
Alex Jones yn sgorio’r gôl agoriadol a chreu’r drydedd mewn buddugoliaeth 0-3 dros Hwlffordd.
Buddugoliaeth allweddol i’r Fflint ar ôl colli saith yn olynol.
Mike Wilde – Cei Connah
Yr ymosodwr profiadol yn penio’r pencampwyr ar y blaen nos Wener yn erbyn Derwyddon Cefn,
Mae Wilde wedi sgorio pum gôl yn ei bum ymddangosiad ddiwethaf dros Y Nomadiaid.