S4C

Navigation

Andy Morrison – Cei Connah

Rheolwr y tymor y tymor diwethaf yn sicrhau’r Bencampwriaeth i Gei Connah am yr ail dymor yn olynol. Dyma’r 5ed tlws i Gei Connah ennill ers i Andy Morrison ymuno â’r clwb ym mis Tachwedd 2015 gyda’r clwb yn mynd o nerth i nerth mewn cystadlaethau domestig ac yn Ewrop.

 

Oliver Byrne – Cei Connah

Mae’r golwr ifanc wedi cadw 10 llechen lân gan ildio dim ond 14 gôl mewn 22 ymddangosiad ers ennill ei le fel rhif 1 y clwb yn ôl ym mis Rhagfyr.

 

George Horan – Cei Connah

Y Capten bytholwyrdd, George Horan yn agor y sgorio i Gei Connah yn fuan yn y fuddugoliaeth dros Ben-y-bont.

Mae’r amddiffynnwr wedi sgorio 7 gôl y tymor hwn ac wedi enillodd Chwaraewr y Mis ym mis Mawrth.

 

Aeron Edwards – Cei Connah

Aeron Edwards yn creu hanes dros y penwythnos gan ennill ei 10fed Pencampwriaeth – yr unig chwaraewr i gyrraedd y garreg filltir.

Sgoriodd yr ail a chreodd y gyntaf i George Horan wrth i Gei Connah guro Pen-y-bont 0-2 i sicrhau’r Bencampwriaeth dros y penwythnos.

 

Danny Davies – Cei Connah

Mae Danny Davies wedi creu argraff ers ymuno â Chei Connah o Brestatyn haf diwethaf, gyda’r asgellwr yn creu 10 a sgorio 4 yn ei dymor cyntaf yn yr uwch gynghrair.

Fe greodd yr ail gôl dros y penwythnos, croesiad i Aeron Edwards benio’r gôl fuddugol cyn i’r dathliadau gwyllt ddechrau.

Pencampwyr #JDCymruPremier

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?