Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.
Alex Ramsay – Y Bala
Pedwerydd buddugoliaeth yn olynol ar Faes Tegid i’r Bala gydag Alex Ramsay yn cadw ei bedwaredd lechen lân o’r tymor yn y fuddugoliaeth 1-0 dros Pen-y-bont.
Shane Sutton – Y Drenewydd
Sgoriodd yr amddiffynwr y gôl fuddugol i sicrhau lle’r Drenewydd yn y gemau ail gyfle yn y fuddugoliaeth 1-2 dros Hwlffordd.
Mae’r Drenewydd wedi colli dim ond un o’u naw gêm wedi’r hollt.
Ryan Brobbel – Y Seintiau Newydd
Naw gôl mewn naw gêm i’r ymosodwr wrth i’r Seintiau barhau i frwydro am y bencampwriaeth, gyda tîm Anthony Limbrick dim ond dau bwynt y tu ôl i Gei Connah gydag un gêm yn weddill o’r tymor.
Callum Morris – Cei Connah
Seren y gêm fyw yn sgorio dwywaith yn y fuddugoliaeth dros Caernarfon – gyda cyfanswm goliau Morris yn codi i 10 o’r tymor.
Bydd Cei Connah yn cael eu coroni’n Bencampwyr am yr ail dymor yn olynol gyda buddugoliaeth dros Pen-y-bont.
Phoebie Poole – Caerdydd
Prif sgoriwr Uwch Gynghrair y Merched yn codi ei chyfanswm goliau i 13 ar ôl sgorio hat-tric yn y fuddugoliaeth 6-0 dros Llansawel.