Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.
Jon Rushton – Y Bala
Llechen lân i’r golwr ar ei ymddangosiad cyntaf dros Y Bala y tymor hwn yn y fuddugoliaeth 0-2 dros Y Drenewydd ar Barc Latham.
Cafodd Jon Rushton ddylanwad mawr ar y fuddugoliaeth gan nadu ei frawd, Nick Rushton rhag agor y sgorio wrth iddo arbed yn dda gyda’i draed yn fuan yn yr hanner cyntaf.
Llwyddodd hefydd i atal James Davies rhag sgorio yn fuan wedyn, arbediad isel i’w chwith yn nadu’r blaenwr.
Mael Davies – Pen-y-bont
Sgoriodd Mael Davies ei drydedd gôl dros Ben-y-bont yn y fuddugoliaeth 0-2 dros Derwyddon Cefn ar y Graig prynhawn Sadwrn.
Gôl hyfryd o du allan i’r cwrt yn curo Dawid Szczepaniak, golwr Derwyddon Cefn.
Mae’r cyn chwaraewr canol cae Abertawe yn creu enw i’w hyn fel sgoriwr goliau arbennig y tymor hwn, gyda dwy o’i dair gôl yn dod o du allan i’r cwrt cosbi.
Mae Pen y bont yn y 5ed safle gan golli dim ond tair gêm o’u naw y tymor hwn – rhain yn erbyn Cei Connah, Y Bala a’r Seintiau Newydd.
Jamie Veale – Aberystwyth
Roedd Veale yng nghanol popeth i Aberystwyth yn y gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar Goedlan y Parc.
Llwyddodd i greu goliau tîm Gavin Allen a sicrhau fod y gêm yn gorffen yn gyfartal gyda thacl dda i rwystro Louis Robles rhag sicrhau’r triphwynt i’r ymwelwyr.
Dyma goliau cyntaf i’r Seintiau Newydd ildio’r tymor hwn, gyda Veale yn allweddol i’r ddwy. Y gyntaf – croesiad o gic rhydd Veale yn canfod Jonathan Falingo ar y postyn pellaf, gyda’r ail yn bas berffaith i lwybr Steff Davies o ei hanner ei hun cyn i Davies rwydo heibio Paul Harrison.
Roedd bron i Aber sgorio eto, gwaith da gan Veale yng nghanol cae wrth ddwyn y meddiant gan Jon Routledge a chanfod Steff Davies ar yr asgell cyn sgwario i Owain Jones – ond ei ymdrech yn methu’r nod!
Pwynt da i Aberystwyth yn erbyn Y Seintiau Newydd roedd â record 100% a heb ildio mewn saith gêm y tymor hwn cyn y gêm nos Wener.
Dylan Rees – Met Caerdydd
Ail gêm yn olynol i’r cefnwr sgorio i Met Caerdydd wrth i’r myfyrwyr ddod a rhediad o saith gêm heb ennill i ben gyda buddugoliaeth dros Y Fflint.
Llwyddodd Rees i agor y sgorio prynhawn Sadwrn, ergyd isel o 30 llath yn curo Aaron Jones i roi’r myfyrwyr ar y blaen.
Jack Wilson – Hwlffordd
Llwyddodd Wilson i greu’r gôl ddoth a’r Adar Gleision yn gyfartal prynhawn Sadwrn mewn gêm gyfartal 1-1 rhwng Hwlffordd a Chaernarfon ar Ddôl-y-bont.
Sgoriodd Danny Williams i unioni’r sgôr yn amser cafodd ei ganiatáu am anafiadau gyda Wilson yn creu’r cyfle o’r asgell dde.
Roedd Wilson hefyd yn anlwcus i beidio ag ennill cic o’r smotyn i’r tîm cartref, ei ergyd i weld yn tasgu oddi ar fraich Jamie Crowther ar linell gôl yr ymwelwyr.